Ionawr sydd yn fferru'r llyn,
a chlecian mae fy nannedd gwyn.
Bwgan ydy'r hen fis bach
a'i nos yn ddu fel clogyn gwrach.
Mawrth sy'n felyn drosto i gyd
a chennin ar ei frest o hyd.
Mae gan Ebrill frws paent gwyrdd
i beintio'r wlad o bobtu'r ffyrdd.
Het foiled sydd gan Mai
hi yw'r harddaf a dim llai.
Mehefin wedyn, pinc yw hon,
fel y candi fflos ar ffon.
Gorffennaf sydd yn rhedeg ras
a'i lygaid fel yr awyr las.
Dwylo Awst sy'n aur i gyd,
yn y cwm mae caeau ŷd.
O Gaerdydd i Abersoch,
mae Medi'n llawn o aeron coch.
Hydref sydd yn drwm ei droed
a'i sgidiau'n frown fel dail y coed.
Mae gan Dachwedd gôt fawr lwyd,
crwydro mae o Fôn i Glwyd.
Llwm yw Rhagfyr bron pob awr,
ond am ryw hyd mae'n enfys fawr.
Meirion Macintyre HuwsCymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
fferru | rhewi, oeri | to freeze |
clogyn | dilledyn heb lewys i'w wisgo dros eich ysgwyddau i'ch cadw'n gynnes | cloak |
llwm | dim byd yn tyfu, moel | bare, bleak |