
I Hamelin erstalwm
Os yw'r hen stori'n ffaith,
Fe ddaeth rhyw bibydd rhyfedd
Yn gwisgo mantell fraith.
A'r pibydd creulon hwnnw
A aeth â'r plant i gyd
A'u cloi, yn ôl yr hanes,
O fewn y mynydd mud.
A Hamelin oedd ddistaw
A'r holl gartrefi'n brudd,
A mawr fu'r galar yno
Tros lawer nos a dydd.
Distawodd chwerthin llawen
Y plant wrth chwarae 'nghyd,
Pob tegan bach yn segur,
A sŵn pob troed yn fud.
Trist iawn fu hanes colli
Y plant diniwed, gwan -
Yn Hamelin erstalwm,
Heddiw yn Aber-fan.
T Llew Jones| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
|---|---|---|
| erstalwm | amser maith yn ôl | a long time ago |
| pibydd | rhywun sy'n chwarae pîb sef math o ffliwt | piper |
| mantell | clogyn | cloak |
| brith / braith | lliwgar | colourful |
| mud | heb fod yn gallu siarad | mute |
| prudd | trist iawn | sombre |
| galar | y teimlad sy'n dod ar ôl i rywun annwyl farw | grief / mourning |
| segur | heb fod yn gwneud dim | idle |
| diniwed | heb fod yn gwneud niwed i neb; da | harmless |