Tua chanrif a hanner yn ôl roedd Californiayn lle tawel, a neb llawer wedi clywed amdano. Ond newidiodd hynny i gyd ar Ionawr 24, 1848 pan ddaeth dyn o'r enw James W. Marshall o hyd i aur yno. Dechreuodd y newydd ledaenu ar draws yr Unol Daleithiau ac yna ar draws y byd i gyd. Daeth tua 300,000 o bobl yno i chwilio am aur a cheisio dod yn gyfoethog.
Daeth rhai pobl yn gyfoethog iawn, ond dychwelodd eraill adref heb geiniog i'w henw. Cyn y rhuthr hwn am aur, dim ond pentref bychan oedd San Fransisco, gydag ychydig o bobl yn byw yno. Ond erbyn heddiw, mae San Fransisco yn un o ddinasoedd mwyaf yr Unol Daleithiau.
Dechreuwyd adeiladu ffyrdd, ysgolion, ysbytai a chartrefi ar draws California, ac roedd yn gyfnod cyffrous a phrysur iawn. Panio oedd y system a ddefnyddiwyd i ddechrau, sef defnyddio rhyw fath o badell fechan mewn afon i wahanu'r aur o'r cerrig mân. Fel y daeth hi'n amlwg fod llawer o aur yno, daeth y ffyrdd o gloddio am aur yn fwy soffistigedig, a pheiriannu trymion yn cael eu defnyddio.
Ond fel gyda phob datblygiad o'r math hwn, roedd rhai ar eu hennill ac eraill ar eu colled. Roedd rhai o'r Americanwyr brodorol yr oedd eu teuluoedd wedi bod yn byw yno ers canrifoedd wedi gorfod symud allan. Dygwyd eu tiroedd er mwyn i'r bobl wynion gael gafael ar yr aur.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
canrif | can mlynedd, cant o flynyddoedd | century |
lledaenu | gwneud yn llydan | spread |
rhuthr | brys, hast | rush |
cyffrous | rhywbeth cynhyrfus | exciting, excitement |
cloddio | tynnu o'r ddaear | mine |
panio | golchi aur mewn padell, rhannu aur oddi wrth y cerrig mân | panning |
brodorol | yn perthyn i fro, rhywun sy'n dod o'r ardal | native |
gwynion | lluosog 'gwyn' | whites |