Rhifyn 10 - Dan y ddaear

Croeso i rifyn mis Hydref 2012 o Gweiddi – y cylchgrawn ar-lein i bobl ifanc. Y mis hwn byddwn ni’n mynd dan y ddaear i gloddio am aur! Byddwn yn mynd o Galiffornia i Ddolgellau i chwilio am ffortiwn. Cawn glywed am drychineb Aberfan pan laddwyd llawer o blant ysgol ac fe ddysgwn am hanes 33 o ddynion a fu'n byw dan y ddaear am 69 o ddiwrnodau, ar ôl i dwnel ddymchwel mewn pwll cloddi mwynau yn Chile. Felly, rhowch eich helmed ar eich pen ag ymuno â ni wrth i ni fynd dan y ddaear!

change level
change level
change level