Llosgfynydd yn yr Eidal yw Mynydd Vesuvius. Echdorrodd ar 24 Awst 79 O.C., gan orchuddio trefi Pompeii, Stabiae a Herculaneum a miloedd o'r bobl oedd yn byw yno. Cafodd Pompeii ei chladdu o dan 10 troedfedd o fwd a lludw, a diflannodd Herculaneum o dan 75 troedfedd o ludw.
Cyn echdoriad 79 O.C. yr oedd nifer o ddaeargrynfeydd wedi bod, ond roedd pawb yn hen gyfarwydd â nhw yn yr ardal. Serch hynny, yn 79 O.C., sychodd y ffynhonnau, aeth y môr yn dymhestlog a dechreuodd anifeiliaid aflonyddu.
Llythyr Pliny'r Ieuengaf
Mae tystiolaeth uniongyrchol am yr echdoriad yn un o lythyrau Lladin Pliny'r Ieuengaf (tua 61 O.C. i tua 112 O.C.). Dyma'r dystiolaeth hynaf sydd gennym am losgfynydd yn echdorri.
Yn ôl Pliny, roedd yr echdoriad yn edrych fel pinwydden yn yr awyr, ac roedd mwg gwenwynig, llwch, llaid, cerrig a fflamau'n tasgu o'r mynydd. Roedd Pliny tua deunaw milltir i ffwrdd pan welodd hyn.
Cafodd ewythr Pliny'r Ieuengaf ei ladd yn yr echdoriad. Pliny'r Hynaf oedd ei enw ac roedd yn gyfrifol am longau rhyfel yr ardal. Pan sylweddolodd fod pobl mewn perygl, aeth â fflyd o longau i'w hachub. Dywed Pliny'r Ieuengaf yn ei lythyr:
"Roedd mor agos at y mynydd fel bod y marwor . . . yn syrthio i mewn i'r llongau, gyda cherrig pwmis a darnau du o greigiau ar dân. Roedden nhw mewn perygl gan fod y môr yn cilio'n ôl, ac roedd creigiau mawr yn rholio i lawr o'r mynydd, ac yn llenwi'r traeth."
Wedi hyn, glaniodd ei ewythr a mynd i fila ffrind, lle cafodd ymolchi a phryd o fwyd. Roedd fflamau mawr yn dal i dasgu o Fynydd Vesuvius. Aeth pawb yn y fila i gysgu am dipyn, ond bu'n rhaid iddyn nhw adael oherwydd bod y cwrt y tu allan yn llenwi â cherrig a lludw. Dyma ddarn arall o lythyr Pliny'r Ieuengaf:
"Rhedodd pawb allan i'r caeau, a chlustogau dros eu pennau i'w hamddiffyn rhag y storm o gerrig oedd yn syrthio o'u cwmpas. Roedd hi'n ddydd ym mhobman arall, ond roedd y tywyllwch yn ddyfnach na'r nos dywyllaf, er bod ffaglau a goleuadau eraill fan hyn a fan draw.
"Penderfynon nhw fynd i lawr i'r traeth i weld a oedd hi'n ddiogel iddyn nhw hwylio'r llongau ar y môr, ond roedd y tonnau'n dal yn uchel ac yn dymhestlog. Yno, gorweddodd fy ewythr ar ddarn o hwyl, a galw am ddŵr oer. Yfodd y dŵr, ac yn syth bu'n rhaid iddo godi oherwydd bod fflamau wedi dod . . ac arogl sylffwr cryf cyn hynny. Cafodd help dau o'i weision i godi, ac yn syth, cwympodd yn farw oherwydd rhyw anwedd gwenwynig . . .
"Ar ôl iddi oleuo eto, sef y trydydd diwrnod ar ôl y digwyddiad trist hwn, daeth ei gorff i'r golwg yn gyfan, heb unrhyw ôl niwed arno, yn y wisg oedd amdano pan gwympodd. Roedd yn edrych yn debycach i ddyn oedd yn cysgu na dyn marw . . ."
Pam mae Mynydd Vesuvius yn bwysig?
Cadwodd y lludw folcanig a orchuddiodd Pompeii a Herculaneum bopeth rhag yr elfennau. Felly, pan aeth archeolegwyr ati i gloddio, roedd popeth yn union fel roedd ar 24 Awst 79 O.C. Mae modd crwydro o gwmpas Pompeii fel roedd y trigolion yn ei wneud y diwrnod hwnnw.
Ers 79 O.C.
Echdorrodd Mynydd Vesuvius unwaith bob canrif o 79 O.C. tan ganol yr 11eg ganrif. Wedyn, bu'r mynydd yn ddistaw am ryw 600 mlynedd. Yn y cyfamser, tyfodd poblogaeth yr ardal, a chafodd tua 4,000 o bobl eu lladd yn echdoriad 1631. Heddiw, mae tair miliwn o bobl yn byw yn ardal Mynydd Vesuvius, felly gallai trychineb enfawr ddigwydd petai'n echdorri eto.
Wrth gloddio yn Pompeii, bydd tyllau'n ymddangos yn y llaid caled. Olion cyrff sydd wedi dadelfennu ydy'r rhain ar ôl i'r llwch a'r llaid galedu. Ers talwm, roedd cloddwyr yn arfer arllwys concrid i'r tyllau ac yn palu o'u cwmpas nhw i dynnu cast plastr o'r corff allan. Heddiw mae archeolegwyr yn defnyddio polymer clir.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
echdorri | ffrwydro (llosgfynydd) | errupt |
tymhestlog | stormus | raging |
aflonyddu | methu bod yn llonydd | restless |
pinwydden | coeden bîn | pine tree |
fflyd | nifer o longau | fleet |
cerrig pwmis | carreg o fath arbennig | pumice stone |
ffagl | tân | torch |
yr elfennau | y tywydd | the elements |
dadelfennu | dod o'i gilydd | decompose |