Tân yn Llŷn

Rhifyn 11 - Tân
Tân yn Llŷn
Loading the player...

Dyma gân 'Tân yn Llŷn' gan y grŵp 'Plethyn'.  

Mae'r alaw a'r cordiau gitâr ar dud. 146/7 y llyfr '100 o Ganeuon Pop', gol. Meinir Wyn Edwards, Y Lolfa, 2010.

 

Cytgan:

Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?

Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?

Tân yn ein calon a thân yn ein gwaith,

Tân yn ein crefydd a thân dros ein hiaith.

Tân, tân, tân, tân.

Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?

 

Pennill 1:

D.J., Saunders a Valentine,

Dyna i chwi dân a gynheuwyd gan y rhain,

Tân yn y gogledd yn ymestyn lawr i'r de,

Tân oedd yn gyffro trwy bob lle.

 

Cytgan

 

Pennill 2:

Gwlad yn wenfflam o'r ffin i'r môr.

Gobaith yn ei phrotest a rhyddid i ni'n stôr.

Calonnau'n eirias i unioni'r cam

A'r gwreichion yn Llŷn wedi ennyn y fflam.

 

Cytgan

 

Pennill 3:

Ble mae'r tân a gynheuwyd gynt,

Ddiffoddwyd gan y glaw a chwalwyd gan y gwynt?

Ai yn ofer yr aberth, ai yn ofer y ffydd

Y cawsai'r fflam ei hail-ennyn rhyw ddydd?

 

Cytgan

 

(Hawlfraint: Sain)

 

Prif lun : Alan Fryer

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
yn wenfflam yn llosgi’n wyllt burning
eirias tanbaid, poeth iawn red-hot
unioni’r cam gwneud iawn am yr hyn ddigwyddodd compensate, atone
ennyn cynnau ignite
ofer heb unrhyw bwrpas in vain
ffydd cred (o ‘credu’) faith
ailgynnau cynnau eto reignite