Mae hi'n bosib mynegi teimladau neu ddisgrifio rhywbeth mewn cerdd gan ddefnyddio delwedd tân. Mae'r enghraifft yn disgrifio llew mewn sŵ.
Mwng o dafodau tanllyd
sy'n goleuo'r sw ar ddiwrnod o haf.
Ond does dim gwreichion yn ei lygaid pŵl.
Treuliodd flynyddoedd yn crwydro'n ddiamcan,
yn fflam ar ddisberod.
Nawr, nid yw'n ysu am ddim.
Llosgodd ei enaid yn ulw.
Diffoddodd ei ysbryd.
Gorwedd yn farwydos oer ar ludw'r pridd.