Llythyr o Awstralia

Rhifyn 11 - Tân
Llythyr o Awstralia

Roleystone,

Perth,

Gorllewin Awstralia

12 Chwefror 2011

Annwyl Twm a'r teulu,

 

Mae'r wythnos hon wedi bod yn ofnadwy ... sut mae dechrau adrodd yr hanes? Dydyn ni ddim wedi cael glaw ers sawl mis, felly mae'r tir yn sych grimp. Ar ben hynny, mae gwynt poeth fel sychwr gwallt wedi bod yn chwipio drwy'r strydoedd.

 

Wythnos diwethaf, roedden ni'n gwylio'r teledu pan ddaeth bwletin newyddion arbennig. Roedd tân wedi dechrau tua ugain milltir o'n tŷ ni.

c3_2.jpg

Roedd hynny'n bell iawn, felly doedden ni ddim yn poeni gormod. Ond cyn pen dim, cawson ni alwad ffôn. Rhywun o'r cyngor lleol oedd yno a'r cyfan a ddywedodd oedd:

 

"Rydych chi mewn perygl ac mae'n rhaid i chi adael eich cartref yn syth. Does dim amser i gasglu unrhyw eiddo. Peidiwch ag oedi. Ewch ar frys."

 

Edrychon ni i gyd ar ein gilydd ac allan drwy'r ffenest. Roedden ni'n gallu gweld y fflamau ar y gorwel, arogli pren yn llosgi a chlywed sŵn hofrennydd uwch ein pennau. Yna, gwelon ni ddŵr yn cael ei ollwng o'r hofrennydd ar y bryn y tu ôl i'r tŷ. Doedd dim amser i'w golli. Rhedon ni i gyd i'r car nerth ein traed.

 

Dwi erioed wedi gweld Dad yn gyrru mor gyflym. Roedd e'n mynd fel cath i gythraul! Ond roedd y fflamau fel petaen nhw'n dod yn nes ac yn nes. Roeddwn i'n edrych yn ôl o hyd, yn barod i weld y fflamau'n dod yn donnau mawr droston ni.

         

O'r diwedd, cyrhaeddon ni afon Canning a chroesi'r bont. Erbyn hynny, roedd y fflamau fel petaen nhw wedi newid cyfeiriad. Diolch byth! Roedden ni'n dal yn fyw! Aethon ni i'r ganolfan hamdden lle roedd pawb o'r ardal wedi ymgasglu.

 

Chawson ni ddim mynd adref am rai dyddiau. Gwnaeth pawb ei orau i esgus ein bod ni ar wyliau gwersylla, ond doedd dim yn tycio. Roedden ni ar bigau'r drain: a fyddai'r tân wedi llosgi ein tŷ ni?

c3_3.jpg

Pan gawson ni fynd adref yn y pen draw, roedd golygfa erchyll yn ein hwynebu. Roedd y tŷ, a phopeth ynddo, wedi llosgi'n ulw. Mae pawb wedi bod yn eu dagrau ers hynny. Rydyn ni wedi bod yn aros gyda ffrindiau, ond dydyn ni ddim yn siŵr faint o amser mae hi'n mynd i'w gymryd i ailgodi'r tŷ. Mae'r cyfan yn hunllef.

Alla i ddim ysgrifennu rhagor, dwi'n teimlo mor benisel. Meddylia amdanom ni yma yn Awstralia.

 

Cofion,

Jack.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
sych grimp sych iawn very dry
erchyll ofnadwy terrible
hunllef breuddwyd gas nightmare
penisel trist iawn moping
ystadegau ffigurau statirtics
ymgasglu dod at ei gilydd to accumulate
difrodi gwneud difrod i rywbeth to damage