Penyberth

Rhifyn 11 - Tân
Penyberth

Yn 1935, roedd y Weinyddiaeth Awyr eisiau sefydlu gorsaf i hyfforddi peilotiaid awyrennau bomio ar safle hen ffermdy Penyberth ym Mhenrhyn Llŷn. Ar y pryd, roedd pobl yn ofni y byddai rhyfel yn digwydd yn erbyn yr Almaen. Roedd llawer o bobl yn gwrthwynebu hyn yn chwyrn oherwydd eu bod nhw'n heddychwyr. Roedden nhw'n ofni y byddai'r 'ysgol fomio' yn newid cymeriad ardal Llŷn a oedd yn ardal wledig, Gymraeg a Christnogol. Gofynnon nhw am gyfarfod â'r llywodraeth i drafod hyn, ond gwrthododd y llywodraeth.

Ar 8 Medi 1936, aeth Saunders Lewis, Lewis Valentine a D.J. Williams i chwistrellu petrol yn rhai o'r cytiau oedd wedi cael eu codi ar y safle, a chynnau tân. Roedden nhw'n aelodau o Blaid Cymru (Saunders Lewis oedd ei llywydd). Yn syth ar ôl i'r tân gydio, aethon nhw i orsaf heddlu Pwllheli i gyfaddef mai nhw wnaeth.

Cafodd y tri eu profi mewn llys yng Nghaernarfon, ond gan fod y rheithgor wedi methu dod i benderfyniad, aeth yr achos i'r Old Bailey yn Llundain. Cafodd y tri ddedfryd o naw mis o garchar. Collodd Saunders Lewis ei swydd fel darlithydd yn y Brifysgol yn Abertawe. Pan gafodd y tri eu rhyddhau o garchar, daeth 12,000 o bobl i'w croesawu nhw ym Mhafiliwn Caernarfon ym mis Medi 1937. 

Cliciwch yma a gwrandewch ar y clip sain. Ynddo, mae'r Parchedig Lewis Valentine yn sôn am noson llosgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth.  

Diolch i Stiwdio John am gyfrannu'r llun.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Y Weinyddiaeth Awyr yr Awyrlu Royal Air Force
gwrthwynebu bod yn erbyn rhywbeth oppose
chwyrn ffyrnig fierce
heddychwyr pobl sydd yn erbyn rhyfela pacifists
chwistrellu "sbreio" rhywbeth to spray
rheithgor 12 o bobl mewn llys barn sy’n penderfynu a yw pobl yn euog neu’n ddieuog jury
dedfryd y gosb a dderbynir mewn llys barn sentence
llecyn man spot
oblegid oherwydd because
hamddenu treulio amser for leisure
dynesu at dod yn nes/agosach at approach
hysbysu rhoi gwybod i inform