Mae'r darn hwn yn dod oTân ar y Comin, nofel gan T. Llew Jones. Ynddo, mae Tim Boswel, sipsi pedair ar ddeg oed, yn llosgi carafán a chorff ei dad-cu ar ôl i hwnnw farw ynddi. Roedd sipsiwn yn arfer gwneud hyn fel bod ysbryd y meirw'n mynd i'r nefoedd.
Tynnodd y lamp oddi ar y bachyn yn y to. Trodd y pabwyr i lawr i'r gwaelod, nes oedd y fflam yn ddim ond rhimyn tenau, glas. Trodd sgriw'r caead bach ar yr olew. Wedi cael hwnnw'n rhydd, tywalltodd yr olew drewllyd o'r lamp ar draws gwely ei dad-cu ac ar lawr y garafán. Tynnodd y bocs matsys o'i boced. Gweddïodd fod un o'r rheini'n mynd i danio.
Yn rhyfedd iawn - fe daniodd y fatsien gyntaf a drawodd ar ymyl y bocs.
Gosododd y fflam fechan wrth ddillad gwely'r hen ŵr, lle roedd e wedi arllwys yr olew, ac ar unwaith gwelodd fflam newydd yn neidio i fyny. Gwelodd ddarn o hen bapur dyddiol yn y gornel o dan y bwrdd bach, a rhoddodd fflam fechan y fatsien wrth hwnnw hefyd. Fflamiodd y papur ar unwaith. Ond erbyn hynny roedd y dillad gwely'n fflamio hefyd ac roedd arogl drwg y flanced yn llosgi yn llond ei ffroenau.
Aeth allan o'r garafán. Gadawodd y drws ar agor y tro hwn er mwyn i wynt y nos allu mynd trwyddo i chwythu'r tân.
Gadawodd y comin wedyn, a cherdded ar hyd y ffordd fawr nes cyrraedd y bont. Arhosodd ar y bont gan anadlu'n gyflym, a chrio'n ddistaw yr un pryd.
Arhosodd yno'n hir gan gadw llygad ar y darn comin. A oedd y tân wedi cael gafael? Neu a oedd e wedi diffodd?
Yna gwelodd dafod o dân yn neidio i'r awyr! Roedd y to wedi llosgi drwyddo! Cyn pen winc roedd y comin yn olau i gyd gan y fflamau mawr a neidiai i'r awyr. O, roedd yr hen garafán yn llosgi'n dda! Yn well na charafán Amos Lovell. Ond wedyn, roedd ei dad-cu yn llawer gwell dyn nag Amos Lovell.
Ac yn awr nid oedd ei dad-cu yn swp o glai oer yn y garafán - na - roedd e wedi mynd - gyda'r fflamau mawr a'r mwg . . . i fyny . . . i fyny i'r Nefoedd! I'r Nefoedd i gwrdd â'i hen gyfeillion - Sol Burton, Amos Lovell, Abram Wood, Gideon Lee a'r lleill. . .
Cododd cwmwl sydyn o wreichion a thân o'r garafán; ac yna dechreuodd y tân fynd i lawr yn araf.
Trodd Tim oddi wrth y bont a cherddodd ymaith. Yr oedd e wedi ffarwelio am byth â'i dad-cu a'r bywyd roedd y ddau wedi'i dreulio yn yr hen garafán. Aeth i lawr y lôn at y ffermdy gwag.
Tân ar y Comin, T. Llew Jones, Gwasg Gomer, Llandysul, 1975. t.27-29.
Bu T. Llew Jones (1915 - 2009) yn brifathro yn Ysgol Coed-y-bryn, Ceredigion. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy yn 1958. Ysgrifennodd nifer o lyfrau i blant, gan gynnwys tair nofel am Twm Siôn Cati, Y Ffordd Beryglus (1963), Ymysg Lladron (1965) a Dial o'r Diwedd (1968).
Roedd T. Llew Jones yn chwarae gwyddbwyll yn dda iawn a bu'n cynrychioli Cymru yn y Gemau Olympaidd Gwyddbwyll gyda Iolo, ei fab. Mae diwrnod cenedlaethol i gofio T. Llew Jones yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar 11 Hydref (diwrnod pen-blwydd y llenor). Bydd plant yn darllen ei lyfrau, yn creu gwaith celf ac yn gwisgo fel rhai o'u hoff gymeriadau.
Mae Tân ar y Comin(1975) yn un o nofelau mwyaf poblogaidd T. Llew Jones. Enillodd yr awdur wobr Tir na n-Og amdani. Yn 1993, cafodd ffilm sy'n seiliedig ar y gyfrol ei darlledu ar S4C. Hefyd, cafodd fersiwn Saesneg o'r ffilm ei darlledu, sef A Christmas Reunion.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
pabwyr | y darn sy’n llosgi yng nghanol lamp neu gannwyll | wick |
rhimyn | ymyl | edge |
tywallt | arllwys | pour |
swp | pentwr | heap, pile |
gwreichion | darnau bach o dân sy’n codi i’r awyr | sparks |