Bocs bach, sgwâr …
hardd,
wedi ei lapio
mewn papur arian sgleiniog
a rhuban melfed glas
mewn dwylo awchus.
Gwên lydan, hapus, wrth i'r plentyn,
ynghanol ei ffrindiau yn y parti,
dynnu'r rhuban a rhwygo'r papur,
gan geisio dyfalu
pa ryfeddod sydd yn
Y BOCS.
Bocs, mawr, petryal
plaen,
o gardfwrdd
brown,
heb unrhyw addurn
o gwmpas corff blinedig.
Wyneb trist, gwag wrth i'r llanc
orwedd yn unig yn nrws siop fawr yn y dref,
gan dynnu'r bocs yn dynn amdano.
Ei unig gysgod rhag y gwynt a'r glaw -
Y BOCS.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
dwylo awchus | dwylo sy’n methu aros i gael gafael ar y peth yn y bocs | eager hands |
rhyfeddod | rhywbeth arbennig iawn | surpise, wonder, marvel |
addurn | rhywbeth sy’n addurno, e.e. rhuban, patrwm, siapiau, lliwiau ac ati | decoration |
llanc | dyn ifanc | young man |
ei unig eiddo | yr unig beth sydd ganddo | his only possession |