Anrheg flasus

Rhifyn 12 - Rhoddion
Anrheg flasus

Llun: National Army Museum

Dydd Santes Dwynwen … Dydd Sant Ffolant … Sul y Mamau … Sul y Tadau … y Pasg … pen-blwydd … pen-blwydd priodas … Y Nadolig … mae un anrheg yn siŵr o blesio bob amser …

SIOCLED! e2_1 (3).jpg

Os ydych chi eisiau dweud "Llongyfarchiadau" … neu … "Brysiwch wella!" … neu … "Mae'n ddrwg gen i" … neu … "Diolch yn fawr" … neu … "Dw i'n dy garu di.", mae un anrheg yn siwr o godi gwên …

Ie, SIOCLED!

Mae pobl wedi bod yn rhoi siocled i'w gilydd ers blynyddoedd ond efallai mai'r Frenhines Victoria ddechreuodd yr arfer o roi siocled fel anrheg Nadolig ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Roedd hi eisiau anfon rhodd at ei milwyr oedd yn ymladd yn Ne Affrica yn 1900. Beth anfonodd hi? Bar o siocled mewn tun arbennig.

Siocled amser maith yn ôl

Roedd pobl wedi bod yn mwynhau siocled cyn hyn, hyd yn oed - dros 3,000 o flynyddoedd yn ôl, efallai. Yr adeg yma, roedd coed coco'n tyfu yng nghoedwigoedd trofannol America Ganol a De America.

Yno, roedd llwythi'r Maiaid a'r Asteciaid yn defnyddio'r ffa i wneud diod siocled - ond nid diod siocled fel rydyn ni'n ei yfed!  Roedden nhw'n ychwanegu tsili a sbeisys i'r ddiod!  Roedd rhai pobl yn ysmygu siocled a tsili hefyd.

Roedd ffa siocled yn werthfawr iawn. Roedd pobl yn eu defnyddio nhw fel 'arian' - i brynu pethau.

Siocled yn dod i Ewrop e2_2 (3).jpg

Yn ddiweddarach, aeth dynion o Sbaen a'r Eidal i'r ardal a daethon nhw â siocled yn ôl i Ewrop. I ddechrau, dim ond y bobl gyfoethog oedd yn ei yfed. Roedd rhaid aros tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg nes cael bar o siocled caled y gallai pobl ei fwyta ac roedd rhaid aros tan ddechrau'r ugeinfed ganrif nes bod y rhan fwyaf o bobl yn gallu fforddio prynu siocled.

Erbyn heddiw, mae gwahanol fathau o siocled ar gael - siocled tywyll, siocled llaeth, siocled gwyn, bariau siocled, wyau siocled, ceirw siocled, wyau Pasg siocled a chwningod siocled. Rydyn ni'n defnyddio siocled ar gyfer gwneud gwahanol fwydydd hefyd, fel cacennau, pwdinau, bisgedi ac rydyn ni hyd yn oed yn ei roi mewn brechdan.

Ydy siocled yn dda i chi?

Mae rhai pobl yn dweud bod bwyta darn o siocled bob dydd yn dda i chi. Yn ôl rhai pobl, mae bwyta siocled tywyll yn helpu cylchrediad y gwaed ac mae'n gallu ymladd yn erbyn canser. Ond cofiwch, mae'n gallu bod yn beth drwg hefyd. Mae siocled yn cynnwys braster a siwgr ac mae gormod o'r rhain yn gwneud i chi roi pwysau ymlaen. Mae rhai pobl yn dweud bod siocled yn rhoi cur pen, neu ben tost, iddyn nhw - a hyd yn oed hunllefau.

Cofiwch hefyd, peidiwch byth â rhoi siocled cyffredin i'ch ci. Mae'r siocled rydyn ni'n ei fwyta yn cynnwys theobromine - sy'n ddrwg iawn i gi!

Rhoi i'r gweithwyr

Mae siocled Cadbury yn enwog iawn. Mae'r cwmni'n enwog iawn hefyd oherwydd roedd perchnogion y cwmni'n trin eu gweithwyr yn dda iawn …

John Cadbury ddechreuodd y cwmni yn 1824 - mewn siop fach yn Birmingham.  I ddechrau, roedd y siop yn gwerthu te a choffi ond, yn 1831, dechreuodd werthu coco a diod siocled hefyd.

Yn 1879, agorodd y cwmni ffatri tua 4 milltir tu allan i'r ddinas. Roedd caeau o gwmpas y ffatri lle roedd y gweithwyr yn gallu chwarae criced, pêl-droed a hoci, ac roedd lle arbennig ar gyfer chwarae tennis a sboncen. Roedd gerddi hardd i gerdded ynddyn nhw ac roedd pyllau nofio ar gyfer dynion a merched.

Roedd pentref bach yma ar gyfer y gweithwyr. Roedd y cartrefi'n dda iawn, gydag ystafelloedd golau, braf ac roedd gan bob un ardd lle roedd y bobl yn gallu tyfu llysiau a ffrwythau.

Roedd cymuned agos iawn yma - roedd y gweithwyr yn teimlo eu bod yn perthyn i deulu agos.

Mae'n bosib mynd i weld y pentref yma heddiw - Bournville yw ei enw.

e2_3 (2).jpg

Llun : Phil Champion

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
arfer traddodiad custom
fodd bynnag gair arall i gyfleu ‘ond’ however
trofannol yn y trofannau tropical
llwythi lluosog llwyth, sef grŵp o bobl sy’n byw gyda’i gilydd ac sy’n rhannu’r un diwylliant tribes
tsili ffrwyth sydd â blas poeth iawn ac sy’n cael ei ddefnyddio mewn sawsiau, powdr sbeis ac ati chilli
cylchrediad taith y gwaed o gwmpas y corff circulation