Roedd 'na rywbeth
yn go arbennig
yn nhre'r Nadolig
pan ddiffoddodd y trydan.
Dim gwerthu ym Marks,
dim coffi yn y caffi,
y siopau'n dywyll fud;
fel petai'r gwir Nadolig
yn ceisio cael cyfle
i rannu'i genadwri.
Ac yr oedd rhywbeth yn braf
yn yr arafu,
yr eistedd, y disgwyl,
a'r siarad efo'n gilydd.
Roedd Duw yn deall yn union
beth oedd o'n ei wneud
pan dorrodd o'r cyflenwad trydan
Noswyl Nadolig.
Aled Lewis EvansCymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
yn go arbennig | yn eitha arbennig | rather special |
yn dywyll fud | yn dywyll, heb unrhyw sŵn o gwbl | dark and silent/mute |
cenadwri | neges | message |
cyflenwad trydan | y trydan sy’n cael ei gyflenwi | electricity supply |