Fyddwch chi'n rhoi anrheg i rywun dros y Nadolig neu'r Flwyddyn Newydd?
Pryd arall byddwch chi'n rhoi anrhegion?
I bwy?
Beth fyddwch chi'n ei roi?
Mae sut mae pobl yn rhoi anrhegion yn amrywio ar draws y byd, fel mae'r negeseuon e-bost yma'n dangos …
Annwyl Gweiddi
Dw i'n byw yn Japan ers chwe mis. Gan fod y Flwyddyn Newydd yn agosáu, dw i wedi bod yn dysgu sut mae pobl yn rhoi ac yn derbyn anrhegion yma - oherwydd mae rheolau anffurfiol ynglŷn â sut mae pobl i fod i roi i'w gilydd.
Yn Japan, mae pobl yn rhoi anrhegion i'w gilydd dros y Flwyddyn Newydd, er mwyn dathlu'r Flwyddyn Newydd, ac ar Orffennaf 15, er mwyn dathlu canol y flwyddyn. Yn ogystal, maen nhw'n rhoi anrhegion i ddathlu priodas, pan fydd babi'n cael ei eni, pan fydd plentyn yn llwyddo neu pan fyddan nhw'n symud i dŷ newydd. Yn draddodiadol, doedd pobl Japan ddim yn rhoi anrhegion pen-blwydd a Nadolig i'w gilydd, ond mae hyn yn dod yn fwy poblogaidd erbyn heddiw.
Llun: Dominic's pics
Mae sut rydych chi'n cyflwyno anrheg yn bwysig iawn yma. Rhaid defnyddio dwy law bob amser. Fel arfer, mae'r person sy'n derbyn yr anrheg yn gwrthod unwaith neu ddwywaith ond, yn y diwedd, mae'n derbyn, gan fod y person sy'n ei rhoi yn mynnu. Rhaid peidio ag agor yr anrheg ar unwaith. Rhaid aros!
Mae pobl Japan yn cymryd llawer o ofal wrth lapio anrhegion. Mae pob anrheg yn cael ei lapio'n hardd iawn, gan ddefnyddio papur neu focsys lliw pastel fel arfer. Dydyn nhw ddim yn defnyddio papur lliw gwyn oherwydd mae'r lliw yna'n gysylltiedig â marwolaeth.
Mae rhoi pâr neu dri neu wyth o rywbeth yn lwcus iawn. Mae rhoi pedwar neu naw o rywbeth yn anlwcus.
Yn aml iawn, mae pobl Japan yn rhoi anrheg i ddiolch am anrheg, er enghraifft adeg salwch neu farwolaeth neu enedigaeth.
Cofion at bawb yng Nghymru!
Janet Evans
Mae pobl Yr Almaen wrth eu bodd yn rhoi ac yn derbyn anrhegion - yn enwedig adeg y Nadolig. Bob blwyddyn, mae marchnadoedd Nadolig arbennig yn agor yn y trefi ac maen nhw'n gwerthu bwyd, diod, addurniadau ac anrhegion bach traddodiadol.
Mae'r dathliadau Nadolig yn dechrau ar Ragfyr 6, Dydd Sant Niclas. Mae'r plant yn rhoi eu hesgidiau tu allan i'r drws yn y gobaith y bydd Sant Niclas yn dod heibio ac yn eu llenwi â losin a phethau melys eraill.
Ar Noswyl Nadolig, ar ôl bod i'r eglwys a chael pryd o fwyd, mae pawb yn agor eu hanrhegion Nadolig.
Pob hwyl a Nadolig Llawen.
Rhys Pritchard
Lluniau: Hedd ap Emlyn
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
amrywio | yn wahanol | to vary |
agosáu | dod yn nes | to draw nearer, approach |
anffurfiol | ddim yn ffurfiol | informal |
yn draddodiadol | o'r gorffennol | traditionally |
gwrthod | dweud “Na, dim diolch.” | to refuse |
mynnu | dweud bod rhaid gwneud | to insist |
yn gysylltiedig â | cysylltiad neu berthynas rhwng dau beth | associated with |