Sawl tro ydych chi wedi clywed athro neu athrawes yn cwyno, 'Rhaid i ti atalnodi! Fedra i ddim gwneud pen na chynffon o dy waith di!' Ond pe baen ni'n defnyddio hieroglyphics fel yr hen Eifftiaid fyddai dim rhaid i ni boeni am atalnodi oherwydd doedden nhw ddim yn atalnodi o gwbl! Doedden nhw ddim yn defnyddio llafariaid chwaith!
Mae wedi cael ei wneud o ddau air Groeg:
Felly ystyr hieroglyph ydy 'ysgrifen sanctaidd'.Roedd yn defnyddio lluniau i gynrychioli pethau, digwyddiadau, synau a syniadau. Roedd mwy na 700 sumbol. Roedd rhai lluniau yn cynrychioli geiriau cyfan.
Yn 1799 cafodd carreg ei darganfod yn el-Rashid (Rosetta) yn yr Aifft. Arni roedd ysgrifen mewn dwy iaith - Eiffteg a Groeg a thri math o sgript - hieroglyphig sef y sgript oedd yn cael ei ddefnyddio mewn dogfennau crefyddol pwysig, demotig sef sgript cyffredin yr Aifft a Groeg, yr iaith oedd yn cael ei defnyddio gan y rhai oedd yn rheoli'r Aifft ar y pryd.
Llun Rosetta Stone : Hans Hillewaert
Mae'n rhaid edrych yn fanwl ar yr hieroglyphs i wybod ym mha ffordd i'w darllen. Mae'n dibynnu ar ba ffordd mae'r bobl neu'r anifeiliaid yn wynebu.Os ydy anifail yn wynebu i'r dde yna rydych yn darllen o'r dde i'r chwith. Os ydy e'n wynebu i'r chwith rydych yn darllen o'r chwith i'r dde - fel rydyn ni'n gwneud. I gymhlethu pethau, weithiau maen nhw'n darllen o'r top i'r gwaelod!
Ar gorsen papyrus, planhigyn tal sy'n tyfu mewn afonydd neu dir gwlyb. Byddai coesau tal y planhigion - oedd yn wag yn y canol - yn cael eu hagor allan,eu sychu a'u glynu wrth ei gilydd i wneud tudalennau.
Byddai'r Eifftiaid hefyd yn cerfio hieroglyphs ar gerrig a'u paentio ar waliau beddrodau.
Gyda phen- corsen denau a siarp - ac inc. Byddent yn malu planhigion a'u cymysgu gyda dŵr i wneud inc a phaent.
Mewn amryw o lefydd fel ysgolion, ar waliau beddrodau, mewn caeau, mewn temlau mewn rhyfel ac yn y llywodraeth.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
llafariaid | a, e, i, o, u, w, y | vowels |
synau | lluosog ‘sŵn’ | noises |
beddrodau | lluosog 'beddrod', sef carreg fedd | headstones |