Pla ar gymdeithas!

Rhifyn 14 - Cyfathrebu
Pla ar gymdeithas!

Fel y gŵyr pawb mae ffonau symudol yn arbed bywydau ac yn ffordd ardderchog o gysylltu â phobl mewn argyfwng. Fel mam i ddau o blant rydw i'n eu gweld nhw'n ddefnyddiol iawn i gadw gafael ar fy mhlant pan h2_1 (2).jpgfyddant allan o'm golwg. Serch hynny, mae ffonau symudol wedi mynd yn bla ar gymdeithas erbyn hyn. Does dim dianc rhagddyn nhw! Ble bynnag byddwch chi maen nhw yno. Ar drên, ar fws, mewn archfarchnad, mewn sinema a theatr, mewn priodas a chyngerdd. Mae'n warthus o beth bod pobl yn tarfu ac yn amharu ar eraill heb iotyn o gydwybod.

Mae angen i bobl godi ar eu traed a chwifio eu baneri protest.  Gresyn nad oes mwy o bobl yn lleisio eu barn yn groch fel Trevor Harris, perchennog sinema Y Palace yn Hwlffordd. Mae e wedi talu am gamerâu drudfawr i fonitro pobl sy'n defnyddio eu ffonau yn y sinema. Os bydd e'n eu gweld nhw'n ffonio, allan â nhw i'r oerfel a'r glaw!

Chwarae teg i'r llywodraeth maen nhw  wedi deffro o'u trwmgwsg ac wedi cyflwyno deddf i wahardd gyrrwyr rhag gyrru a ffonio. Ydy pobl yn cydymffurfio â'r ddeddf? Ydyn nhw'n poeni am ddirwy? Nac ydyn! Edrychwch ar y gyrrwyr! Mae'n anodd tynnu cast o hen geffyl!

Efallai y byddwch yn fy ngweld fel deinosor o'r cynfyd yn cwyno ac yn achwyn am bethau modern. Ond, wir yr, dydw i ddim! Rwyn un o hoelion wyth E-bay, yn prynu popeth ar-lein, o fwyd i ddillad, yn bancio ar lein ac ar Gweplyfr a Trydar bob nos. Ond dydw i ddim am guddio fy mhen yn y tywod. Rhaid wynebu ffeithiau.

Wyddech chi fod un o bob pump o blant wedi cael eu bwlio ar eu ffôn symudol? Wyddech chi fod 'happy slapping' ar gynnydd? Mae'r bobl ifainc anwaraidd hyn yn ffilmio h2_2 (2).jpgymosodiadau a'u hanfon at eraill. Cywilyddus!

Does arna i ddim eisiau dal ati a rhygnu ymlaen ac ymlaen yn erbyn ffonau symudol ond mae'n rhaid i ni ystyried nad ydyn ni wir yn gwybod am eu heffeithiau hir dymor. Ydyn nhw'n achosi altzheimers? Ydy dynion yn fwy tebygol o fod yn anffrwythlon o'u defnyddio? Ydyn nhw'n gwneud niwed i'r ymennydd?

Ond wyddoch chi beth? Dydy'r holl ofnau yna ddim yn gwneud i mi daflu fy ffôn i'r bin agosaf chwaith! 'Pam?' meddech chi. Wel, mi ateba i gyda chwestiwn. Ydw i'n peidio â gyrru ar hyd yr A44 er mod i'n gwybod mai dyna'r darn peryclaf o ffordd ym Mhrydain? Nac ydw. Ydw i'n peidio â phrynu oddi ar E-bay er mod i'n gwybod bod yna ddihirod yn y byd mawr sy'n ceisio dwyn fy arian a'm manylion personol? Nac ydw. Gofal a chymedroldeb yw'r geiriau allweddol. Byw yn ofalus a chymedrol a defnyddio'r ffôn yn ofalus ac yn gymedrol.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
tarfu amharu interfere
gresyn piti, bechod pity
hoelion wyth cefnogol iawn supportive