Chwedl Taliesin

Rhifyn 15 - Rhyfedd
Chwedl Taliesin

Mae llawer o chwedlau Cymru'n rhyfedd iawn. Dyma un ohonyn nhw - chwedl Taliesin.

***

Roedd Ceridwen y wrach yn byw gyda'i gŵr, Tegid Foel, ger Y Bala (mae Llyn Tegid wedi cael ei enwi ar ei ôl) ac roedd ganddyn nhw ddau blentyn. Eu merch, Creirfyw, oedd y ferch harddaf yn y byd, ond eu mab, Morfran, oedd y bachgen hyllaf yn y byd.

Roedd Ceridwen yn poeni tipyn am ei mab, Morfran, felly aeth ati i wneud diod arbennig iddo er mwyn ei wneud yn ddoeth. Bu'n berwi perlysiau mewn crochan hud am flwyddyn a diwrnod ac ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, roedd Morfran i fod i yfed y tri diferyn olaf. Roedd ei gwas, Gwion Bach, yn ei helpu gyda'r ddiod. Yn anffodus, un diwrnod, pan oedd e'n helpu i droi'r ddiod, llyncodd ddiferyn ohoni a chafodd e'r ddawn i fod yn fardd.

Aeth Ceridwen yn wyllt gacwn a rhedodd ar ôl Gwion Bach. Gan fod y ddiod yn ddiod ryfeddol, trodd Gwion Bach yn ysgyfarnog er mwyn rhedeg yn gyflym iawn - roedd y ddiod ryfeddol wedi rhoi gallu arbennig iddo. Y funud nesaf, dyma Ceridwen, y wrach, yn ei throi ei hun yn filgi cyflym a dyma hi'n rhedeg nerth ei thraed ar ei ôl.

houndhare.jpgRoedd Ceridwen ar fin dal Gwion pan gyrhaeddodd afon. Felly, dyma Gwion yn troi'n bysgodyn a neidiodd i mewn i'r dŵr. Trodd hithau'n ddyfrgi i'w hela yn yr afon ac er i Gwion nofio'n gynt ac yn gynt ar hyd yr afon, roedd Ceridwen yn agosáu ato.

Yn sydyn, neidiodd Gwion allan o'r afon a throdd yn aderyn, gan hedfan i fyny'n uchel i'r awyr, ond fe drodd Ceridwen ei hun yn hebog, gan hedfan ar ei ôl fel mellten. Llwyddodd Gwion i hedfan oddi wrthi ond roedd yr hebog yn aderyn llawer cynt ac roedd Ceridwen wrth ei gynffon yn fuan iawn.

Yna, cafodd Gwion syniad: beth am droi'n hedyn o ŷd? Felly, trodd yn hedyn a disgynnodd i'r ddaear i ganol pentwr o ŷd. Roedd yn ddiogel, meddyliodd. Fyddai Ceridwen byth yn gallu dod o hyd iddo mewn pentwr o ŷd! Ond na - roedd Ceridwen yn agos unwaith eto. Roedd hi wedi'i throi ei hun yn iâr ac roedd hi'n dechrau bwyta'r ŷd. Bwytodd hi'r ŷd i gyd, gan gynnwys Gwion.

hawkbird.jpg

Naw mis yn ddiweddarach, cafodd Ceridwen faban, sef Gwion Bach, yr hedyn ŷd roedd hi wedi'i  lyncu. Er ei bod hi'n grac gyda Gwion Bach, doedd hi ddim yn gallu ei ladd -  roedd e'n faban mor hardd. Ond roedd Morfran yn grac iawn, felly lapiodd Ceridwen y baban mewn bag o ledr a'i daflu i'r môr yn Abermaw.

Roedd Morfran yn gobeithio y byddai Gwion Bach yn boddi ond, beth amser yn ddiweddarach, cafodd ei ddarganfod gan Gwyddno Garanhir ger y Borth, rai milltiroedd i'r gogledd o Aberystwyth. Gwyddno Garanhir oedd brenin Cantre'r Gwaelod ac aeth e â Gwion Bach gartre a rhoi'r enw Taliesin arno. Wrth iddo dyfu, roedd pawb yn gweld bod Taliesin yn fachgen galluog iawn a'i fod yn siarad mewn barddoniaeth. Roedd e'n fachgen rhyfeddol.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
gwrach dynes sydd, mewn chwedlau, yn gwisgo dillad du a het ddu ac sy’n gwneud pethau drwg witch
perlysiau planhigion arbennig – rydyn ni’n defnyddio’r dail fel arfer wrth goginio herbs
crochan hen sosban fawr cauldron
yn wyllt gacwn yn grac neu’n flin iawn very angry
ar fin ei ddal bron iawn â’i ddal about to catch him
dyfrgi anifail sy’n byw ar lan yr afon ac sy’n hela pysgod otter
hebog aderyn ysglyfaethus sy’n bwyta adar eraill hawk
cynt mwy cyflym faster
hedyn rhywbeth sy’n mynd i dyfu’n blanhigyn seed
ŷd hadau gwahanol fathau o rawn corn