Fyddi di'n swingio clustog neu obennydd ar ddydd Sadwrn, Ebrill 6, 2013?
Bydd miloedd o bobl ar draws y byd yn mynd i le cyhoeddus, fel parc neu iard fawr, a byddan nhw'n cael llawer o hwyl yn swingio clustog neu obennydd. Rhyfedd!
Pam bydd miloedd o bobl yn mynd â chlustog neu obennydd i le cyhoeddus?
Dydd Sadwrn Ebrill 6, 2013 ydy'r International Pillow Fight Day. Bydd miloedd o bobl yn 'ymladd' â chlustogau!
Faint ydy oed y bobl yma?
Gall unrhyw un o unrhyw oed gymryd rhan - plant, pobl ifanc neu oedolion.
Oes angen clustog neu obennydd arbennig?
Nac oes, ond mae'n well defnyddio un meddal.
Sut mae ymladd â chlustog?
Mae'n syml. Rhaid dal clustog a'i swingio'n ysgafn er mwyn trio taro rhywun arall.
Swingio'n ysgafn?
Bydd miloedd o bobl yn swingio clustog yr un pryd, felly rhaid peidio â bod yn rhy wyllt. Hefyd, rhaid peidio â brifo unrhyw un.
Ydych chi'n cael taro unrhyw un?
Nac ydych. Dydych chi ddim yn cael taro unrhyw un sydd heb obennydd.
Oes angen gwisgo dillad arbennig?
Nac oes, ond mae'n well tynnu sbectol i ffwrdd cyn dechrau - rhag ofn.
Beth fydd yn digwydd ar y diwrnod?
Bydd pobl yn dod i ran arbennig o'r ddinas erbyn rhyw amser arbennig. Yna, byddan nhw'n aros am yr arwydd i ddechrau.
Beth ydy'r arwydd?
Cloch neu chwiban uchel.
Beth wedyn?
Bydd pawb yn dechrau taro'i gilydd â chlustog.
Pa mor hir bydd hyn yn para?
Mae hyn yn gallu para am hanner awr neu am ddwy awr - mae'n dibynnu ar y bobl. Y peth gorau ydy aros nes bod pawb wedi blino a stopio'r digwyddiad bryd hynny.
Beth wedyn?
Bydd disgwyl i bawb helpu i glirio'r holl blu ac unrhyw lanast arall, er mwyn gadael y lle mor lân ag yr oedd cyn dechrau.
Faint mae'n gostio?
Dim byd. Mae'n rhad ac am ddim.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
clustog / gobennydd | bag o ddefnydd sydd wedi ei stwffio â phlu neu bolyester, sy’n cael ei ddefnyddio er mwyn gorffwys y pen arno yn y gwely fel arfer | pillow |
cyhoeddus | ar gyfer y cyhoedd | public |
chwiban | sŵn uchel gan offeryn bach sy’n cael ei chwythu e.e. ar ddechrau ras | whistle |
plu | mae plu’n tyfu ar adar ac maen nhw’n cael eu defnyddio i wneud clustog neu obennydd weithiau | feathers |
llanast | sbwriel, rhywbeth blêr neu anniben | mess |