• Mae 23 tywysog Cymru wedi bod. Dau Gymro, a'r 21 arall yn Saeson.
  • Tywysog cyntaf Cymru gyfan oeddLlywelyn ap Gruffudd(Llywelyn ein Llyw Olaf) yn 1267.
  • Cafodd Llywelyn ei ladd gan fyddin y Brenin Edward 1 o Loegr. Digwyddodd hyn yng Nghilmeri yn 1282. 
  • Wedyn, daeth brawd Llywelyn,Dafydd ap Gruffudd, yn dywysog Cymru. Cafodd ei ddienyddio gan Edward I yn 1283, ar ôl bod yn dywysog am flwyddyn.
  • Erbyn 1301, roedd y Brenin Edward I o Loegr wedi concro Cymru. Penderfynodd roi teitl tywysog Cymru i'w fab, yTywysog Edward.  Roedd Edward I yn ceisio cael y Cymry i fod yn deyrngar i goron Lloegr.
  • Cafodd 19 o'r tywysogion o Loegr eu harwisgo yn Lloegr. Ond yn 1911 a 1969, digwyddodd yr arwisgo yng nghastell Caernarfon.
  • Y Tywysog Charles (mab hynaf y Frenhines Elizabeth) sydd â'r teitl heddiw. Cafodd ei arwisgo yng nghastell Caernarfon yn 1969. Mae ganddo gartref ym Myddfai, ger Llanymddyfri yn sir Gaerfyrddin.

Arwyddlun Tywysog Cymru - Tair pluen

Beth yw'r arwyddlun?

  • Tair pluen estrys mewn coron fechan

Beth yw'r arwyddair?

  • 'Ich dien'. (Rwyf yn rhoi gwasanaeth - yn Almaeneg)

Ers pryd mae'n cael ei ddefnyddio?

  • Ers y 16eg ganrif. Roedd y tair pluen gyntaf yn edrych ychydig yn wahanol

 

Pwy sy'n defnyddio'r tair pluen?

  • Undeb Rygbi Cymru
  • Milwyr y Gatrawd Frenhinol Gymreig(Royal Welsh Regiment)
  • Cefn y darn dwy geiniog (rhwng 1971 a 2008)

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
dienyddio lladd to execute
arwisgo rhoi dillad a phŵer tywysog i rywun to invest
teyrngar ffyddlon (teyrn = brenin + câr (caru loyal
arwyddlun llun sy’n arwydd o rywbeth emblem
estrys aderyn mawr ostrich
arwyddair geiriau sy’n arwydd o rywbeth motto