Ers 2000, mae'r Tywysog Charles wedi penodi Telynor Brenhinol Swyddogol i ganu'r delyn mewn achlysuron swyddogol a phreifat. Hyd yma, merched o Gymru fu pob un ohonyn nhw:
Hen draddodiad
Nid rhywbeth newydd i deulu brenhinol Lloegr yw cael telynor swyddogol. Y Frenhines Victoria oedd â'r telynor swyddogol diwethaf, sef John Thomas. Mae'n enwog am gyfansoddi darn i'r delyn ar alaw 'Bugeilio'r Gwenith Gwyn'.
Catrin Finch
Catrin Finch oedd Telynor Brenhinol Swyddogol cyntaf y Tywysog Charles. Chwaraeodd hi'r delyn yn y Plasau Brenhinol ac i deuluoedd brenhinol o wledydd dros y byd i gyd.
Claire Jones
Dyma Claire Jones, sy'n dod o sir Benfro'n wreiddiol, yn disgrifio'r broses o benodi telynor swyddogol:
"Anfonodd y Palas lythyrau i bob un o'r ysgolion cerdd i chwilio am y Telynor Swyddogol nesaf," meddai. "Roedd tri thelynor ar y rhestr fer. Roedd rhaid gwneud clyweliad o flaen Ysgrifennydd Preifat y Tywysog Charles a thri thelynor enwog. Yna, gwnes i glyweliad preifat i'r Tywysog Charles."
Perfformiodd Claire mewn dros 160 achlysur brenhinol dros bedair blynedd. Un o'r achlysuron olaf iddi oedd priodas y Tywysog William (mab y Tywysog Charles) â Katherine Middleton.
Hwb i delynor
Mae cael bod yn Delynor Brenhinol Swyddogol yn hwb mawr i delynorion. Mae'r rhai sydd wedi bod yn y swydd yn gallu defnyddio'r teitl ar ôl gorffen.
Y delyn - offeryn i ferched?
Erbyn heddiw, mae'n debyg fod mwy o ferched na bechgyn yn canu'r delyn. Pwy sy'n canu'r delyn yn eich dosbarth/ysgol chi? Ond ers talwm, dynion oedd y rhan fwyaf o'r telynorion. Dyma lun o Mr Roberts, Telynor y Drenewydd, gan y ffotograffydd John Thomas, (1838-1905).
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
telynor (es) | rhywun sy’n canu’r delyn | harpist |
harpist | harpist | to appoint |
achlysur | digwyddiad | event |
swyddogol | ffurfiol, rhan o seremoni | official |
traddodiad | arfer | tradition |
clyweliad | cerddor neu actor yn perfformio o flaen rhywun i geisio cael swydd | audition |
hwb | help mawr | boost |