Arwisgo Tywysog Cymru, 1969

Rhifyn 16 - Brenhinoedd a Breninesau
Arwisgo Tywysog Cymru, 1969

Cafodd y Tywysog Charles ei arwisgo'n dywysog Cymru ar 1 Gorffennaf 1969. Digwyddodd yr arwisgo yng nghastell Caernarfon.

charlesmug.jpg

Cafodd pob plentyn ysgol yng Nghymru gynnig mwg (Myg y Prins) i gofio am yr arwisgo. Gwrthododd rhai plant dderbyn y mwg. Mae rhai mygiau ar werth ar ebay erbyn hyn!

Cyn yr arwisgo, roedd cynnwrf mawr yng Nghymru. Roedd llawer o bobl yn teimlo'n gryf na ddylai Sais fod yn Dywysog Cymru. Roedd rhai pobl yn gwisgo bathodyn gyda 'Dim Sais yn Dywysog Cymru' arno. Cafodd sawl rali fawr eu cynnal, gyda phobl yn siarad yn erbyn yr arwisgo.

Aeth MAC (Mudiad Amddiffyn Cymru) ati i osod bomiau mewn sawl man: Caer, Caerdydd a Chaernarfon. Y noson cyn yr arwisgo, cafodd dau aelod o'r mudiad eu lladd gan eu bom eu hunain wrth swyddfeydd y llywodraeth yn Abergele.

Roedd yr heddlu cudd yn gwylio llawer o bobl cyn yr arwisgo. Roedden nhw'n ofni bod pobl yn paratoi cynllwyn i darfu ar y seremoni yng Nghaernarfon. Cafodd rhai pobl eu harestio er eu bod nhw'n ddieuog.

Treuliodd y Tywysog Charles ddeg wythnos ym mhrifysgol Aberystwyth i ddysgu am yr iaith a'r diwylliant Cymraeg. Yn ystod y seremoni yng Nghaernarfon, siaradodd yn Gymraeg a Saesneg. 

Hefyd, rhoddodd y tywysog araith Gymraeg ym mhabell Eisteddfod yr Urdd. Ond cyn iddo siarad, cododd llawer o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar eu traed i brotestio. Doedden nhw ddim yn hapus o gwbl bod yr Urdd yn rhoi croeso i'r Tywysog Charles. Yn ystod y brotest, dalion nhw bosteri gyda'r gair 'BRAD 1282'  a 'BRADYCHWYD YR URDD' arnyn nhw. Wedyn, cerddodd tua chant o bobl allan o'r babell gyda'r bobl ifanc.

Cafodd Abertawe ei gwneud yn ddinas yn 1969 i ddynodi'r arwisgo.

Recordiodd Dafydd Iwan gân o'r enw 'Carlo' i wneud hwyl am ben y ffaith fod pawb wedi gwirioni ar gael tywysog Cymru newydd. Gwerthodd y record 15,000 copi.

carlo.jpg

Gallwch glywed y gân a gweld y geiriau gyda chyfieithiad Saesneg ar YouTube.  Sylwch fod angen to bach ar 'y gân' a 'mân'. (http://www.youtube.com/watch?v=Z7_y1CkbOHg

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cynnwrf cyffro agitation
bathodyn llun neu arwydd i ddangos barn neu eich bod yn perthyn i grŵp badge
mudiad cymdeithas, corff movement, organisation
heddlu cudd heddlu heb iwnifform secret police
cynllwyn tric, bwriad cudd plot
tarfu ar torri ar draws disturb
dieuog ddim yn euog innocent
brad twyll betrayal
bradychu twyllo to betray
rali llawer o bobl yn dod at ei gilydd i brotestio rally
dynodi dangos, arwyddo to denote