Eleni, am y tro cyntaf, roedd cyfle i gyflwyno cerddi Cymraeg yn ogystal â cherddi Saesneg i gystadleuaeth farddoniaeth cwmni siocled Divine, mewn partneriaeth â Cymorth Cristnogol.
Cyflwynwyd dros 300 o gerddi Cymraeg, rhwng y cynradd a'r uwchradd.
Y beirniad oedd Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru 2011-13 ac enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd, Dinbych yn 2006.
Yr enillydd yn y categori 12-16 oed oedd Gwynfor Dafydd, Ysgol Gyfun Llanhari, gyda cherdd mewn cynghanedd gyflawn, sydd yn ôl Eurig, 'yn gamp fawr ac yn dangos y gallu i ddefnyddio'r gynghanedd i gyfleu ystyr yn effeithiol iawn.'
Pan na fyn heulwen wenu
ar awr ddwys yr awyr ddu,
tasgwn i siopau Tesco -
clyd yw gyda'i siocled o.
Tua'r til, troi, rhaid talu
ac ymuno'n llon â'r llu.
Ond yn fy mhen, am ennyd
fe synhwyraf araf fyd:
Dan benyd o fyd di-foeth
yn helbul y gwres chwilboeth
mae gweithwyr dan gur yn gaeth
i lafur cyfalafiaeth.
Yn ein hedd a flasem ni - eu hen boen
yn y bocs siocledi
a'u huffern yn ein coffi?
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Pan na fyn | pan nad yw'r haul eisiau gwenu | when the sun does not shine |
Dwys | sobr, difrifol | solemn |
Penyd | cosb | punishment |
Helbul | helynt | trouble |
Cur | poen | pain |
Cyfalafiaeth | y gred mewn cael llawer o gyfoeth/arian | capitalism |