Ydy, mae e'n eironig! Gêm genedlaethol Japan ydy restlo sumo - dau ddyn dros bwysau yn ceisio gwthio ei gilydd allan o'r cylch. A dyma'r wlad ble mae'r bobl teneuaf a mwyaf tyner yn y byd yn byw!
Darllenwch ran o ddyddiadur y restlwr sumo Dagvadorj Dolgorsurengiin. Mae'n pwyso 560 pwys neu 40 stôn ac yn mynd trwy 20,000 o galorїau y dydd! 2,500 o galorїau y dydd ddylai dyn gael, mae'n debyg! Ond sut mae'n llwyddo i gael cymaint, meddech chi? Wel, dyma fraslun o'i ddiwrnod!
Ar gyfartaledd, mae restlwyr sumo yn byw nes maen nhw'n 60 -65 oed (10 mlynedd yn iau na dynion eraill Japan). Mae hyn oherwydd bod eu ffordd o fyw yn arwain at afiechydon fel clefyd siwgwr, clefyd y galon, pwysau gwaed uchel a chryd cymalau/gwynegon.
Mae jocis yn cadw'n ffit ac iach ar lai na 1,000 o galorїau'r dydd! Mae'n rhaid iddyn nhw gadw at bwysau arbennig.
Dyma enghraifft o beth allai Frankie Dettori, un o jocis enwocaf Prydain, fwyta mewn diwrnod.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
cae sgwâr | gwely | bed |