Eleni, mae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas yn eu hunfed flwyddyn ar ddeg ac mae pawb yn gwybod erbyn hyn bod yr enillwyr yn cynnig safon a blas arbennig.
Mae tua hanner cynhyrchwyr Cymru'n cymryd rhan yn y gwobrau ac mae ganddynt i gyd un peth yn gyffredin, sef eu brwdfrydedd a'u hymroddiad i gynhyrchu'r bwydydd a'r diodydd gorau.
Bob blwyddyn, mae'r gwobrau'n mynd yn fwy cystadleuol gan ddenu cynhyrchwyr a chynhyrchion newydd. Eleni, roedd andros o dasg yn wynebu'r beirniaid, sef dewis y gorau o dros 800 o eitemau mewn gwahanol gategorïau. Ym mhob categori roedd gwobr aur, arian ac efydd.
Dyma rai o'r enillwyr.
Brecon Carreg
Dŵr Llonydd Brecon Carreg
Daw dŵr Brecon Carreg o berfeddion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy'n 520 milltir sgwâr o harddwch naturiol. Mae'r dŵr yn trylifo trwy haenau o galchfaen am 15 mlynedd, yn cael ei buro'n naturiol ac yn magu blas arbennig cyn cael ei botelu yn y tarddle ym mhentref Trap, ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin.
Ffôn: 01269 850175
Cwmni Caws Caerfyrddin Cyf
Carmarthenshire Blue
Yn ôl beirniaid y Gwir Flas, roedd 'blas cefn gwlad' i'w glywed yn y caws glas arbennig hwn. Mae'n gaws briwsionllyd ac iddo ansawdd da a gwythiennau glas. Mae'n hufennog, heb fod yn rhy gryf, ac iddo flas glân ac mae'n toddi yn y geg gan adael ôl-flas dymunol.
www.carmarthenshirecheese.co.uk
Ffôn: 01267 221168
Conti's
Hufen Iâ Traddodiadol Conti's
Mae dylanwad Cymru a'r Eidal i'w weld ar yr hufen iâ hyfryd hwn. Mae llu mawr o bobl wedi mwynhau hufen iâ fanila traddodiadol Conti's ers iddyn nhw ddechrau ei wneud ymhell yn ôl, ym 1946. Penderfynodd beirniaid y Gwir Flas roi Gwobr Arian i'r hufen iâ hwn oherwydd ymroddiad y cwmni i gadw at y ryseitiau traddodiadol a gwneud defnydd da o gynhwysion gwreiddiol fel menyn, llaeth, hufen a siwgr. Gallwch glywed awgrym o flas y menyn ar yr hufen iâ a ddisgrifir fel un 'hufennog ond nid rhy felys'.
Ffôn: 01570 422223
Siop Fferm Cwm Cwmcerrig
Syrlwyn Cig Eidion
Mae Siop Fferm Cwmcerrig ar safle'r fferm lle mae'r gwartheg Henffordd sy'n rhoi'r cig blasus hwn yn cael eu magu. Mae anifeiliaid y ffarm yng Ngorslas, Llanelli yn cael y gofal gorau ac mae hynny'n cyfrannu at ansawdd arbennig a blas hyfryd y syrlwyn sydd wedi ennill Gwobr Aur. Mae'r cig yn cael ei drin a'i hongian ar y safle hefyd, sy'n lleihau'r milltiroedd bwyd. Yn ôl y beirniaid, roedd y syrlwyn yn 'ddarn delfrydol o gig eidion'.
Ffôn: 0126984405
Forte's Ice Cream
Fanila Clasurol
Bu teulu Forte'n gwneud hufen iâ ers tuag 85 o flynyddoedd. Onorio Forte oedd y cyntaf i ddatblygu'r rysâit deuluol tra oedd yn byw ym mryniau'r Eidal. Mae David, ei ŵyr, wedi cynnal y traddodiad ac, erbyn heddiw, mae Forte's yn fusnes llwyddiannus yn nhref lan môr brysur Llandudno. Mae rysáit hufen iâ fanila Onorio yn dal ei thir yn erbyn y cystadleuwyr ac fe enillodd Wobr Efydd am ei ansawdd hufennog, ei flas fanila ac am ddefnyddio cynhwysion syml yn effeithiol.
Ffôn: 01492 876739
Fferm Glasfryn
Canol Lwyn Porc wedi'i lenwi â Stwffin Porc a Garlleg a'i Lapio mewn Cig Moch Pen Llŷn
Mae fferm Glasfryn Fawr ger Pwllheli yn un o hen stadau Llŷn. Mae yng nghysgod triban yr Eifl ac ar lannau hardd Bae Ceredigion sy'n ardal enwog am fridiau anifeiliaid cynhenid. Dywedodd y beirniaid bod yr eitem hon yn 'hollol ddi-fai' ym mhob agwedd ar y blas a'r cynhyrchu ac roeddent yn llawn canmoliaeth i wreiddioldeb y cyflwyno - dyma gynnyrch y gall Siop Fferm Glasfryn ymfalchïo ynddo!
Ffôn: 01766 810 044
Llaeth y Llan
Iogwrt
Mae'r iogwrt hufennog, moethus hwn yn ffrwyth blynyddoedd o waith yn perffeithio'r rysáit ar fferm Gareth Roberts yn Sir Ddinbych. Mae'r fferm yn swatio y tu allan i bentref Llannefydd, yn edrych i lawr tuag at lannau'r gogledd ac i fyny tuag at Fryniau Clwyd. Gwneir yr iogwrt probiotig â llaeth cyflawn gwartheg o Gymru ac mae'n ddelfrydol i'w ddefnyddio mewn ryseitiau neu gyda phwdinau.
01745 540256
Welsh Venison Centre
Rag Cig Oen Cymru
Llwyddodd y rag pedwar asgwrn o gig oen Cymru i greu argraff ffafriol iawn ar y beirniaid. Roeddent wedi'u plesio â chyflwyniad proffesiynol y cig a'r gofal a gymerwyd gan y cigydd. Mae ceirw Canolfan Cig Carw Cymru yn cael crwydro'n rhydd ar borfeydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae'r staff yn talu sylw mawr i les yr anifeiliaid a hanes y cig - o'r ffridd i'r fforc. Wrth ei goginio, caiff y cig ei sesno ag ychydig o olew olewydd, halen a phupur i ychwanegu at y blas.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
cynhyrchwyr | y bobl sy'n cynhyrchu | producers |
brwdfrydedd | eisiau gwneud rhywbeth | enthusiasm |
ymroddiad | gweithio'n galed | devotion |
tarddle | ble mae rhywbeth yn dechrau | source |
hufennog | llawn hufen | creamy |
syrlwyn | rhan o gig eidion | sirloin |
triban | tri phigyn | three peaks |
cynhenid | naturiol | natural |
ffridd | tir pori mynyddig | mountain pasture |
sesno | ychwanegu rhywbeth at fwyd i ychwanegu blas | to season |