Annwyl Gweiddi
Dw i ddim yn berson sy'n treulio oriau yn darllen am fywyd preifat selebs - fel rhai o'm ffrindiau. Dw i ddim yn berson sy'n casglu memorabiliachwaith - fel rhai pobl. Dw i ddim yn gallu deall pobl sy'n gwario'u harian ar bethau fel llofnodion, lluniau a hyd yn oed esgidiau a dillad isaf rhyw ganwr pop neu actor. Darllenais i'n ddiweddar am rywun yn prynu un o ddannedd John Lennon, o'r Beatles, am £19,500 (gwirion!) a dw i'n gwybod hefyd am rywun yn prynu ychydig o wallt Justin Bieber - am $40,668 neu £26,569 (gwirion iawn!).
Er nad oes gen i ddiddordeb mewn casglu pethau fel hyn, es i i rywle rhyfedd iawn y llynedd! Es i i gaffi yng Nghernyw lle roedd amgueddfa wahanol iawn. Na, dim ystafelloedd tywyll yn cynnwys casys gwydr yn llawn pethau diflas ond amgueddfa fach oedd yn arddangos gweddillion bwyd roedd rhai selebs wedi eu gadael ar ôl bwyta. Gwelais i:
Pob hwyl
Ceri Jones
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
selebs | lluosog seleb, sef fersiwn Cymraeg o’r gair Saesneg celeb (celebrity) | celebrities |
arddangos | dangos mewn arddangosfa | to exhibit |
gweddillion | beth sydd ar ôl | leftovers |