Ydych chi wedi clywed am dîm pêl-droed Shakhtar? Maen nhw'n dîm pêl-droed enwog iawn o'r Wcráin ac maen nhw'n chwarae yn y prif bencampwriaethau.
Mae perthynas rhwng y tîm yma a Chymru oherwydd gallech chi ddweud mai Cymro sy'n gyfrifol am fodolaeth FC Shakhtar ...
Yn 1814, cafodd John Hughes ei eni ym Merthyr Tudful. Roedd ei dad yn brif beiriannydd yng ngwaith haearn Cyfarthfa.
Dechreuodd John ei hun weithio yn y Gwaith Haearn yma, cyn symud i weithfeydd eraill yn Ne Cymru a Lloegr. Roedd yn beiriannydd arbennig a daeth yn enwog iawn.
Roedd e mor enwog, cafodd wahoddiad gan Lywodraeth Rwsia i sefydlu gweithfeydd yn Yr Wcráin. Felly, yn 1870 hwyliodd i Rwsia, gyda tua chant o weithwyr haearn a glöwyr, y rhan fwyaf ohonyn nhw o Dde Cymru. Aeth ati ar unwaith i sefydlu'r gweithfeydd metel.
Daeth y gweithfeydd yn bwysig iawn ac roedden nhw'n enwog iawn am gynhyrchu darnau ar gyfer rheilffyrdd. Cyn bo hir, datblygodd yr ardal lle roedd y gweithfeydd yn ardal ddiwydiannol lwyddiannus iawn.
Roedd John Hughes ei hun yn enwog a chafodd yr ardal ei henwi ar ei ôl: Hughesovka - neu, yn iaith Yr Wcráin, Yuzovka.
Cafodd yr ardal ei hail-enwi yn Stalino yn 1917, yn dilyn Chwyldro Rwsia, ac yna cafodd ei henwi yn Donetsk yn 1961. Yn Stadiwm Donbass Arena, yn Donetsk, mae tîm pêl-droed Shakhtar yn chwarae.
Felly, petai John Hughes ddim wedi mynd i ddechrau'r gweithfeydd haearn yn Yr Wcráin, efallai na fyddai tîm Shakhtar yn bodoli heddiw. Pwy a ŵyr?
Dyma Stadiwm Arena Donbass, mae'n edrych fel soser hedfan.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
bodolaeth | bod | being |
peiriannydd | person sy’n cynllunio, yn gwneud neu’n gweithio gyda pheiriannau | engineer |
gweithfeydd | lluosog “gwaith” | works |
sefydlu | dechrau | to establish |
ardal ddiwydiannol | ardal lle mae llawer o ddiwydiannau | industrial area |
Pwy a ŵyr? | Pwy sy’n gwybod? | Who knows? |
pencampwriaethau | luosog “pencampwriaeth” – cystadlaethau chwaraeon | championships |
haearn | math o fetel | iron |
chwyldro | ymgyrch, protest fawr | revolution |