Ymlaen ... i’r gofod!

Rhifyn 18 - Yma ac Acw
Ymlaen ... i’r gofod!

Fel arfer, mae'n cymryd dau ddiwrnod i gyrraedd  yr Orsaf Ofod Ryngwladol, sy'n teithio o gwmpas y ddaear, tua 200 o filltiroedd i ffwrdd, ar gyflymder o 17,500 milltir yr awr. Ym mis Mawrth, eleni, fodd bynnag, llwyddodd un astronawt o America a dau gosmonawt o Rwsia i deithio yno mewn llai o amser o lawer.

Dechreuodd Chris Cassidy, Pavel Vinogradov ac Alexander Misurkin eu taith o Kazakhstan am 20:43 (Amser Safonol Greenwich) ar 28 Mawrth, a chyrhaeddon nhw'r Orsaf Ofod Ryngwladol am 02:28 (Amser Safonol Greenwich) ar 29 Mawrth - llai na 6 awr, sef llai o amser na hedfan o Lundain i Efrog Newydd neu deithio mewn car o Ogledd Cymru i Dover yn ne Lloegr!

kazakhstanmap.jpg

space_station.jpg

Yn yr Orsaf Ofod Ryngwladol

Ar ôl cyrraedd yr Orsaf Ofod Ryngwladol, mae'r astronawts a'r cosmonawts yn aros yno am chwe mis fel arfer. Maent yn gwneud arbrofion gwahanol, yn gwella'r orsaf ac yn dod i ddeall mwy am sut mae pobl yn gallu byw a gweithio yn y gofod. Yn ogystal, rhaid iddynt wneud dwy awr o ymarfer corff bob dydd gan fod  disgyrchiant isel yn gallu cael effaith wael ar yr ysgerbwd a system cylchrediad y gwaed.

Mae'r astronawts a'r cosmonawts hyn yn bobl arbennig iawn, wrth gwrs. Maent wedi derbyn hyfforddiant arbennig ar gyfer gwneud y gwaith ac ar gyfer medru byw o fewn amgylchedd yr orsaf ofod.

Teithio i'r gofod

Cyn bo hir, fodd bynnag, mae'n bosib y bydd pobl nad ydynt yn astronawts neu'n gosmonawts yn gallu teithio i'r gofod.  Mae un cwmni'n gobeithio y bydd yn gallu cynnig gwyliau i bobl yn y gofod yn fuan iawn - yn 2015 - sef ddwy flynedd i ffwrdd.

Ble mae'r cwmni hwn wedi ei leoli? Yn America? Yn Rwsia? Yn China? Nage. Mae'r cwmni wedi ei leoli ym Mhrydain - ar Ynys Manaw - ychydig i'r gogledd o Gymru.

isleofman.jpg

didyouknow.jpg

Bwriad y cwmni, Excalibur Almaz, ar Ynys Manaw, yw anfon tri pherson i'r gofod am wyliau a fydd yn para rhwng chwech ac wyth mis. Byddant yn teithio 500,000 o filltiroedd i'r lleuad, lle byddant yn ei chylchdroi, cyn dychwelyd i'r ddaear. 

Mae'r daith yn swnio'n ddiddorol tu hwnt. Bydd yn brofiad anhygoel.  Mae un broblem fach, fodd bynnag. Pris tocyn fydd 100 miliwn o bunnau! Mae'n well i chi ddechrau cynilo!

moon.jpg

Y lleuad - efallai y bydd pobl yn gallu teithio yno yn 2015.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
disgyrchiant y grym sy’n tynnu pethau tuag at y ddaear gravity
cylchrediad y ffordd y mae’r gwaed yn teithio o gwmpas y corff circulation
cylchdroi troi o gwmpas to orbit
cynilo safio arian / hel pres to save