Mae gwyliau’r haf yn gallu bod yn hir – yn enwedig os nad oes gennych chi unrhyw beth i’w wneud. Sawl gwaith fyddwch chi’n dweud y geiriau canlynol yn ystod yr haf, tybed, “Dw i’n bored!”, “Does gen i ddim byd i’w wneud!” neu “O, beth wna i?”
Y newyddion da ydy bod rhai ardaloedd ar draws Cymru’n ceisio datrys y broblem hon drwy drefnu nifer o brosiectau gwahanol ar gyfer plant a phobl ifanc.
Cynlluniau gwahanol
Mewn rhai ardaloedd, er enghraifft, mae cynlluniau nofio am ddim – sy’n gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc nid yn unig yn cadw’n brysur ond yn cadw’n iach hefyd. Gwych ’te!
Mewn ardaloedd eraill, mae sesiynau crefft mewn llyfrgelloedd, sy’n cynnig cyfleoedd ardderchog i ddatblygu sgiliau creadigol plant a phobl ifanc.
Mae rhai theatrau’n trefnu gweithdai a chynyrchiadau arbennig dros yr haf fel bod pobl ifanc yn dod at ei gilydd i ddysgu sgiliau newydd, i gyfarfod â phobl eraill, i gydweithio ag eraill ac, yn y diwedd, i berfformio drama neu sioe gerdd. Mae’r rhain yn cynnig cyfleoedd arbennig iawn ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae rhai eglwysi’n trefnu bod pobl ifanc yn cymryd rhan mewn prosiectau cymunedol lle maent yn gallu helpu pobl lai ffodus yn y gymuned.
Prosiectau y llynedd
Un o’r prosiectau gorau y llynedd, efallai, oedd y prosiect i greu rhandir yn ne Cymru.
O dan y cynllun hwn, daeth grŵp o bobl ifanc 11-18 oed at ei gilydd i greu gardd arbennig.
Cafodd y tir ei rannu’n dair rhan - rhan fach ar gyfer blodau, rhan fwy ar gyfer llysiau, a rhan arall ar gyfer lawnt lle roeddent yn gallu ymlacio ar ôl eu gwaith caled.
Roedd hwn yn gyfle rhagorol i fwynhau gweithio yn yr awyr agored ac i dyfu bwyd ffres a thrwy hynny fwyta’n iach.
Roedd prosiect arbennig arall yn gysylltiedig â chreu ffilm am yr ardal. Nid ffilm yn hyrwyddo ardal oedd hon ond ffilm a oedd yn mynegi barn a dyheadau pobl ifanc.
Yn gyntaf, bu’r bobl ifanc yn trafod pa fath o ffilm roeddent yn dymuno’i chreu. Yna, cafodd pawb dasg arbennig. Roedd rhai’n gyfrifol am ddewis lleoliadau, rhai’n gyfrifol am drefnu cyfweliadau, rhai’n gyfrifol am ffilmio a golygu ac ati.
Yn y diwedd, defnyddiodd y bobl ifanc y ffilm i fynegi eu barn am y cyfleusterau sydd ar gael yn eu hardal ar gyfer pobl ifanc, ac eglurodd nifer ohonynt beth hoffent ei weld yn yr ardal yn y dyfodol.
Penderfynodd y grŵp anfon y ffilm at y cynghorydd lleol, gyda llythyr yn egluro beth yr hoffent ei weld yn cael ei ddatblygu yn yr ardal.
Cafodd y bobl ifanc a gymerodd ran yn y ddau brosiect brofiadau gwerth-chweil, llawn hwyl. Gobeithio y cewch chi gyfle i wneud rhywbeth gwerth-chweil, llawn hwyl dros yr haf eleni.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
dyheadau | lluosog “dyhead”, sef dymuniad dwfn | desires, aspirations |
lleoliadau | lluosog “lleoliad”, sef lle | locations |
golygu | rhoi’r ffilm at ei gilydd | to edit |