Zipio dros Ogledd Cymru

Rhifyn 18 - Yma ac Acw
Zipio dros Ogledd Cymru

Gwyyyyyyyyyyyyyyyyyyych . … Haaaaaaaaaaaaaaaaaardd … Grêêêêêêêêêêêêêêêêêêêt … Waaaaaaaaaaaaaaaaaaaaw … Aaaaaaaaaaaaaaaa …! 

Dyna rai o'r ebychiadau y byddwch chi'n debygol o'u clywed wrth i bobl zipio ar draws zip-lein newydd sbon yng Ngogledd Cymru, y "Zipiwr Mawr".

bodyzipblah.jpg

Mae'r zip-lein newydd wedi ei gosod tua 213 metr uwchben Chwarel y Penrhyn ym Methesda, Gwynedd, ac mae'n ymestyn am filltir - y zip-lein hiraf yn hemisffer y gogledd, a'r un hiraf a chyflymaf yn Ewrop.

northwalesmap.jpg

Mae zipio ar hyd y zip-lein yma'n gyflym iawn - rhwng 85 milltir yr awr a 105 milltir yr awr!

Mae'r reid wedi ei chreu ar gyfer ymwelwyr sy'n ymweld â'r ardal. Fel arfer, maen nhw'n treulio tua dwy neu dair awr yn crwydro'r ardal, gan ddysgu am ei hanes, ac yna maen nhw'n cael cyfle i fynd ar y "Zipiwr Bach" (dim ond 500 metr!), cyn symud ymlaen i'r "Zipiwr Mawr".

Cafodd y reid yma'i agor yn gynharach eleni a'r person cyntaf i fynd arni oedd Robert Davies, 72 oed.

"Dyna un o'r pethau mwyaf anhygoel i mi ei wneud erioed," dywedodd. "Mae'r olygfa'n fendigedig, a phan dach chi'n hedfan drwy'r awyr, mae'n brofiad ffantastig. Roeddech chi'n gallu fy nghlywed i'n sgrechian yr holl ffordd i lawr!"

Mae diogelwch yn hollbwysig, wrth gwrs, a rhaid i bobl wisgo siwt hedfan arbennig, helmed a gogls a harnais diogelwch arbennig.

Mae'r reid yn her! Mae'r reid yn anhygoooooooooooooooooooooooooooooooel!

bodyzipline.jpg

infobox1.jpg

infobox2_600x588.jpg

 

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ebychiadau lluosog ebychiad – ymadrodd mae rhywun yn ei ddweud yn gryf er mwyn tynnu sylw arbennig exclamations
zip-lein lein y mae pobl yn reidio ar ei hyd zipwire
ymestyn mynd o un pen i’r llall to stretch
rhaff-gerddwr rhywun sy’n cerdded ar raff dynn tightrope walker
rhaff dynn rhaff sy’n cael ei dal yn dynn rhwng dau bwynt tightrope
rhaeadr dŵr yn llifo dros graig neu greigiau ar wely’r afon waterfall
allforio eu cymryd i rannau eraill o’r byd to export
tywys arwain to guide
dro arall rhywbryd arall another time