Haia Endaf,
Dw i ddim yn meddwl y galla i gysgu o gwbwl heno. Beth amdanat ti? Mae digwyddiadau'r diwrnod - wel - yr holl wythnosau diwetha' 'ma'n mynd trwy fy mhen fel chwyrligwgan. Dw i ddim yn gwybod yn iawn sut dw i'n teimlo. Roeddwn i wedi edrych ymlaen at heddiw ers cymaint o amser, ond be wnes i? Crio! Ie, llefain - fel y bydd Mam-gu yn ei ddweud - a llefain y glaw!
Roedd gadael Ysgol Gynradd Rhosforgan yn drist. Wedi'r cyfan, rydw i wedi bod yno y rhan fwyaf o fy mywyd ac wedi cael amser da. Mi fydd yn rhaid i fi dyfu i fyny rŵan (neu tyfu lan i Mam-gu!) a chaf i ddim gwneud rhai o'r pethau roeddwn i'n eu mwynhau ers talwm. Dydy disgyblion ysgol uwchradd ddim i fod i chwarae cuddio a chwarae tic!
Mi wnes i fodelau clai pan oeddwn yn y dosbarth derbyn a dw i wedi eu cadw nhw. Mae'n anodd credu mai cath a chi ydyn nhw i fod, ond maen nhw'n drysorau i mi.
Mi fydda i'n trysori'r llyfrau ges i heddiw gan athrawon yr ysgol hefyd. Pob un wedi ei lofnodi gyda geiriau caredig: Pob dymuniad da i ti yn Ysgol y Ddraig, Mrs Williams; Cofia'r hwyl gefaist yn Nosbarth 4! Mr Frank Hughes; Ymlaen fo'r nod! Lowri Gwyn.
Do, fe gawson ni hwyl gyda Mr Frank Hughes. Wyt ti'n cofio fy nghlywed i'n sôn amdano? Frankenstein mae o'n cael ei alw! Un diwrnod Ffŵl Ebrill fe ddywedodd ei fod wedi gweld dafad gyda chwe choes! A typical o Dafydd Fferm y Waen 'de, fe ofynnodd ble'r oedd y ddafad er mwyn i'w dad gael holi'r ffermwr o ble'r oedd wedi ei chael. 'Chwe leg of lamb yn lle pedair yn talu'n dda!' meddai. Ha ha!
Wnes i sôn wrthot ti am Lowri Gwyn? Wel, jyst fel hi i sgwennu Cymraeg posh! Ond roedd hi'n gwneud llawer o bethau da, fel mynd â ni i Langrannog a Glan Llyn ac i gystadlu yn eisteddfodau'r Urdd. Un tro, ar ôl i Gymru ennill gêm rygbi, fe ddaeth hi i'r ysgol mewn gwisg draig goch a het siâp cennin Pedr!
Beth fuost ti'n ei wneud heddiw? Mae'n braf cael cefnder yr un oed â fi mewn ysgol wahanol. Dw i'n teimlo'n well ar ôl ysgrifennu'r e-bost yma. Ateba i ddweud sut aeth dy ddiwrnod olaf di yn yr ysgol gynradd... Hwyl am y tro!
Mari.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
chwyrligwgan | tegan sy'n troi a throi'n gyflym | whirligig |
trysori | gofalu am rywbeth fel petae'n drysor | to treasure |
cennin Pedr | daffodil, blodyn cenedlaethol Cymru | daffodil |