Ydy, mae'r ffordd o ddweud pen-blwydd hapus yn amrywio o wlad i wlad! Mae traddodiadau dathlu pen-blwydd yn amrywio hefyd. Dyma sut mae'r bobl ifanc yma'n dathlu pen-blwydd yn eu gwlad nhw:
Fietnam "Mae pen-blwydd pawb yn cael ei ddathlu ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn.Tet rydyn ni'n galw'r diwrnod hwnnw. Mae'r oedolion yn llongyfarch y plant am fod flwyddyn yn hŷn ac yn rhoi amlenni coch i ni yn cynnwys arian lwcus neu 'li xi'."
Yr Ariannin "Pan mae'r merched yn cyrraedd pymtheg oed maen nhw'n cael parti enfawr ac yn dawnsio'r waltz gyda'u tadau a bechgyn eraill."
Brasil "Tynnu clust bymtheg gwaith fyddwn ni'n wneud, ac mae'n brifo! Rydyn ni'n rhoi darn cyntaf y gacen pen-blwydd i'n ffrind gorau, ran amlaf mam neu dad, ac mae'r merched yn dawnsio'r waltz bymtheg gwaith gan ddechrau gyda'u tad a'u taid."
Canada "Yn Nova Scotia, Prince Edward Island, New Brunswick a Newfoundland mae trwyn yr un sy'n cael ei ben-blwydd yn cael ei iro i roi lwc dda iddo. Mae iro'r trwyn yn ei wneud yn rhy llithrig i lwc ddrwg gael gafael arno."
Tsieina "Fel pawb arall cefais nŵdls i ginio i roi bywyd hir i mi!"
Denmarc "Mae fel Nadolig yma oherwydd mae'r anrhegion yn cael eu rhoi wrth droed y gwely tra rydyn ni'n cysgu. Hefyd, mae baner yn chwifio y tu allan i'r tŷ i ddangos bod rhywun yn cael ei ben-blwydd yno."
Yr Almaen "Rydw i'n gobeithio y bydda i wedi priodi cyn bod yn dri deg oed. Os na fydda i bydd yn rhaid i mi sgubo grisiau neuadd y dref! Bydd fy ffrindiau yn taflu sbwriel ar y grisiau a bydd yn rhaid i mi ei sgubo."
Yr Iseldiroedd "Mae pen-blwyddi arbennig fel 5, 10, 15, 20, 21 yn cael eu galw'n 'flynyddoedd y goron'. Mae'r plentyn yn cael anrheg mawr ac mae ei gadair wrth y bwrdd yn cael ei addurno gyda blodau a balŵns."
Israel "Pan oeddwn yn fach roeddwn yn cael fy rhoi mewn cadair a honno'n cael ei chodi i fyny nifer o weithiau i gyd-fynd â'm hoed. Mae hyn yn digwydd yn Latfia a Lithuania hefyd."
Jamaica "Caiff blawd ei daflu dros yr un sy'n dathlu ei ben-blwydd ac mae pawb yn dawnsio i gerddoriaeth reggae."
Corea "Ar ben-blwydd cyntaf babi mae'r teulu'n cael parti mawr. Ar y bwrdd bydd bwyd a phedair eitem - pensil, pren mesur, edau ac arian. Mae'r babi'n dewis un eitem i ragweld ei ddyfodol - disgybl ardderchog, da gyda'i ddwylo, bywyd hir neu gyfoeth."
Mecsico "Rydyn ni'n malu piñatas. Mae'r piñata yn cael ei wneud o papier mâché ar ffurf anifail ac yn cael ei lenwi gyda phethau da. Mae'r un sy'n cael ei ben-blwydd yn gwisgo mwgwd ac yn taro'r piñata nes iddo gracio ac agor. Bydd pawb yn rhannu'r danteithion. Yn Panama bydd y piñatas ar ffurf cymeriadau neu'n cyd-fynd â thema'r parti."
Rwsia "Pastai pen-blwydd fyddwn ni'n ei chael yma, nid cacen. Bydd enw'r un sy'n dathlu ei ben-blwydd yn cael ei gerfio ar y crystyn."
De Affrica "Pan fydda i'n un ar hugain byddaf yn cael allwedd papur, ffoil, aur neu arian gan fy rhieni fel arwydd fy mod i'n barod i agor y drws i'm dyfodol."
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
rhagweld | dweud beth fydd yn digwydd yn y dyfodol | predict |
iro | rhoi saim ar rywbeth | to grease |
danteithion | pethau blasus | delicious things |