Gwared y Gwirion

Rhifyn 20 - Rhyfel
Gwared y Gwirion

Mae dau ifaciwî, Paul (Pôl), yr hynaf, a Robin (Robat) wedi dod i aros gyda modryb Joni ac un dydd aeth Joni i Brynhyfryd, fferm ei fodryb Nel, i chwarae gyda'r ifaciwis.

'Why don't you show them where you play, Joni?' medda Anti Nel.

I'r gweithdy uwchben y beudy â ni i ddechra ac i fyny'r ysgol bren oedd yn arwain i'r llofft lle roedd hi'n gynnes ac yn dywyll.

'This is where I play llongwrs and going to carchar,' meddwn i ar ôl i'r ddau stryffaglio i fyny'r ysgol. Ar y gair dyma Daisy May yn rhoi andros o fref odanom ni.

'Wot the'ell's that?' medda'r bychan a dyma fo'n gafael ym mraich y mawr.

'Only the cow,' meddwn inna, 'nothing to be ffrait.'

'This place bleedin'stinks,' medda'r hyna,'oo wants to play in a dump like this.'

'Bleedin stinks,' medda'r bychan ar'i ôl a dyma'r ddau yn i rhuthro hi'n ôl i'r buarth.

Wel, dyma fi'n mynd â nhw i'r cwt mochyn a'r cwt llo ac allan i'r das fawr yng nghanol y cael ble'r oeddwn i'n gallu sglefrio'n braf o'r top i'r gwaelod heb ddim trafferth ond y cyfan wnaeth y ddau oedd cwyno wrth ei gilydd a deud petha'fel 'bleedin, a 'cor' a 'fflippin'ec'.

Mi oedd geiria'r rhain i gyd yn newydd jest iawn i mi. Yna dyma'r bychan yn rhoi cic i mi yn fy mhen ôl heb frifo llawer ac medda fo, ''Ere mate, wot the'ell d'you do all the time in this dump?'

'Playin' meddwn i, 'and going to school .'

'Wot, nuffink else?'

'I'm plaeïn'a lot in the haystack,' meddwn inna'n amddiffynnol.

'In the bleedin'aystack! Listen, Kiddo!'

A dyma fo'n dechra sôn wrtha i amdano fo a Pôl yn chwara adra. Mi roeddan nhw'n byw mewn stryd hir, hir, a bob nos wrth ddwad adra o'r ysgol mi fyddan nhw'n rhedeg i ddrws ffrynt pob tŷ a cnocio yn y modd mwyaf ofnadwy, a chuddiad wedyn rownd y gongol, nes basa'r stryd i gyd yn rhuthro i mewn ac allan trwy'r drws ffrynt ac yn clepian drysa, ac yn rhegi nerth'u penna'. Wedyn mi fydda Robat - Robin oedd Pôl yn'i alw fo- yn tynnu bloda o'r gerddi yn ddistaw bach, ac yn'u gadal nhw ar stepan drws nesa. Neu weithia mi fydda fo'n mynd i mewn i'r siopa mawr yn y dre a chuddiad tu nôl i'r dillad yn y lle merchaid a neidio allan a dychryn plant bach eraill. Amball dro mi fydda'n sleifio i mewn i'r lle bydda'r merchaid yn newid a'u dal nhw yn i nicars.

'Ere,'medda Robat, 'don't you speak English when you're by yourself?'

'No,' medda fi, 'it is Welsh I speak.'

'Does your old man speak Welsh?'

'Who?'

'Your da, your pop?'

'What is pop?'

'Oh, gawd, forggit it; let's go and play in the bleedin haystack.'

'No,' medda finna'n syth. Ar ôl clywed Robat yn deud ei stori mi oedd gen i gywilydd meddwl mod i erioed wedi gweld sglefrio lawr y das yn rhywbeth difyr i'w wneud.

'Ere,' medda Robat cyn bo hir, 'wot say we'ave a go on the baby cow?'

'What?'

'The baby cow. Ave you ever been on'er back?'

'What?'

'Ere, let me show yer.'

A dyma fo'n dechra sleifio i fyny at y bustach du a gwyn oedd yn pori ac yn meindio'i fusnes yr ochr arall i'r cae. Mi oeddwn i wedi dychryn pan welais beth oedd bwriad Robat, ond fedrwn i wneud dim byd ond sbio arno fo ac mi oedd y dychryn yn ddychryn neis hefyd, mewn ffordd,achos mi faswn inna'n licio bod yn ddigon dewr i fynd ar gefn y bustach. Fedrwn i ddim peidio'i edmygu o'n hela'r bustach yn ara deg, ac o'r diwadd yn gafael yn i fwng o ac yn halio'i hun i fyny ar ei gefn o. Mi safodd y bustach yn hollol llonydd am eiliad. Wedyn dyma fo'n ysgwyd i ben yn ffyrnig ac yn i chychwyn hi rownd a rownd mewn cylch yng nghanol y cae, yn wylltach ac yn wylltach ac yn fwy ac yn fwy cyflym o hyd. Erbyn hyn mi roedd Robat yn gafael fel cranc am wddw'r bustach ac yn gweiddi mwrdwr, a'i goesau'n neidio'n ôl a blaen ac i fyny ac i lawr fel coesau dyn pren wrth i'r bustach sboncio o gwmpas. Mi oedd fy nghalon i'n curo bymthag y dwsin. O'r diwadd dyma fi'n rhedag i ffwrdd i chwilio am Anti Nel.

'Anti Nel,' medda fi, 'mae Robat yn reidio'r bustach du a gwyn.'

Ddywedodd hi ddim dim ond rhedeg at y cae bach. Pan gyrhaeddon ni roedd yr hen fustach yn pori'n hamddenol dawel mewn congol fel tasa dim wedi digwydd a Robat yn gorfadd yn llonydd ar y glaswellt.Roedd o'n llwyd fel papur sgwennu a'i goes wedi'i phlygu yn rhyfadd o dano fo.

Mi fuo na fynd a dwad ofnadwy am hir wedyn gyda Jo'r gwas yn cario Robat i'r gegin, y doctor yn ei ecsaminio fo a dweud ei fod wedi torri ei goes a'r ambiwlans yn mynd â fo i'r hospital i gael plastar.

Ar ôl i bethau dawelu dyma Pôl yn dwad i'r tŷ a golwg wyllt ryfadd arno fo, a'i wallt am ben i ddannadd.

'I've done for the bleedin cow,' medda fo'n filain, 'it won't hurt nobody no more. Why the'ell did we ever come to this awful place. Gawd, I wish I was at'ome. And now Robin's been killed by the bleedin cow and nothing matters no more.'

Ac, yn wir, roedd o wedi lladd y bustach gyda chyllell fara.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Tas wair gwair haystack
Amddiffynnol amddiffyn, cadw rhywun yn ddiogel defend
Bustach tarw ifanc bullock