Ydy anifeiliaid yn gallu cyfathrebu â'i gilydd?
Wel, ydyn, wrth gwrs.
Rhai enghreifftiau'n unig sydd uchod o anifeiliaid yn cyfathrebu â'i gilydd.
Ydy anifeiliaid yn gallu cyfathrebu â dyn?
Wel, "ydyn" yw'r ateb eto.
Pan fydd ein ci ni eisiau sylw, er enghraifft, mae'n dod ac yn rhoi ei bawen ar fy nghoes ac yna, mae'n mynd â fi tuag at beth bynnag mae e eisiau - y bocs bwyd fel arfer neu weithiau mae'n mynd â fi at y drws os yw e eisiau mynd allan.
Mae fy nghi i'n deall geiriau hefyd. Yn wir, mae'n bosib dysgu ci - ac unrhyw anifail arall, dw i'n siŵr - i ymateb i:
Fodd bynnag, nid yw anifeiliaid yn medru ateb yn ôl drwy ddefnyddio geiriau - fel arfer - ond mae'n debyg bod un eliffant, yn Ne Korea, wedi dechrau defnyddio geiriau i gyfathrebu â phobl.
Mae Koshik, eliffant sy'n byw yn Sŵ Everland, yn Ne Korea, wedi dysgu sut i "ddweud" y geiriau hyn:
Gan nad oes ganddo wefusau fel ni a gan fod gwddf eliffant yn wahanol i wddf person, mae Koshik wedi gorfod dod o hyd i ffordd wahanol o gynhyrchu'r sain. Mae'n rhoi ei drwnc i mewn i'w geg ac yna'n cynhyrchu'r sain.
Er mwyn asesu pa mor dda yw ei ynganiad, gofynnodd gwyddonwyr i bobl sy'n siarad iaith Korea wrando ar recordiadau o'r eliffant yn siarad ac yna sillafu beth roedden nhw wedi ei glywed. Roedd y rhan fwyaf yn gallu sillafu'r geiriau. Felly, mae Koshik yn ynganu'n eitha clir.
Mae'n debyg bod Koshik wedi dechrau "siarad" pan oedd tua 14 oed. Ar y pryd, fe oedd yr unig eliffant yn y sŵ ac efallai ei fod wedi cynhyrchu'r geiriau er mwyn cyfathrebu a bondio gyda'i giperiaid.
Mae'r dolffin trwyn potel yn byw oddi ar arfordir Gorllewin Cymru ac yn "siarad" ag acen Gymreig!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
ynganiad | y ffordd mae’n dweud geiriau | pronunciation |
ymadroddion | lluosog “ymadrodd” – geiriau arbennig | expressions |
ochneidio | sŵn cwyno | to groan |
dod i’r casgliad | dod i ddeall | to conclude |