Mowgli modern

Rhifyn 21 - Gwahanol
Mowgli modern

Ydych chi wedi gweld y ffilm The Jungle Book? Yn y ffilm, mae bachgen ifanc o'r enw Mowgli yn byw yng nghanol yr anifeiliaid yn y jyngl. Mae e'n dod yn ffrindiau gyda rhai ohonyn nhw tra mae anifeiliaid eraill yn ceisio'i ladd.

Efallai eich bod chi'n meddwl bod y stori yma'n un anodd ei chredu, ond cafodd un ferch ei magu yng nghanol anifeiliaid Affrica a daeth yn ffrindiau mawr â nhw.

Tippi Degré yw enw'r ferch. Cafodd ei geni yn Namibia, yn 1990, a'i magu yn Affrica.

namibiamap_628x628.jpg

Ffotograffwyr o Ffrainc oedd ei rhieni hi ac roedden nhw'n byw yn Affrica am gyfnod, gan eu bod yn gweithio yno, yn tynnu lluniau o anifeiliaid gwyllt. Gan nad oedd plant eraill yn yr ardal iddi chwarae gyda nhw, daeth Tippi'n ffrindiau gyda'r anifeiliaid gwyllt yn yr ardal a chafodd lawer o hwyl yn eu cwmni.

 

Roedd yr anifeiliaid yn berffaith hapus yn ei chwmni. Roedd yr estrys yn hapus iddi eistedd ar ei gefn. Roedd y llewpard yn caniatáu iddi orwedd wrth ei ochr. Roedd yr eliffant yn fodlon iddi eistedd ar ei drwnc.  Roedd ganddi hi berthynas agos iawn gyda chenawon llewod, sebraod, crocodeilod, tsitaod, nadroedd a phob math o anifeiliaid eraill. Roedd hi'n eu parchu nhw ac roedden nhw'n ei pharchu hi.

 

"Gan nad oedd plant eraill yno, nhw oedd fy ffrindiau i," dywedodd Tippi un tro.

 

Yn ogystal â'r anifeiliaid, roedd pobl yr ardal yn ei derbyn hi fel un ohonyn nhw ac roedden nhw'n dysgu eu ffordd nhw o fyw iddi.

 

Mae Tippi wedi cyhoeddi llyfr o'r enw Tippi: My Book of Africa, sy'n cynnwys nifer o luniau anhygoel ohoni hi a'r anifeiliaid. Mae llawer ohonyn nhw ar y we hefyd - ewch i chwilio amdanyn nhw.

animalcollection.jpg

Mowgli modern

infobox.jpg

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
estrys aderyn mawr ostrich
llewpard cath fawr smotiog leopard
cenawon lluosog “cenau”, anifail ifanc cubs
yn wreiddiol i ddechrau originally