Guto Nyth Brân

Rhifyn 22 - Ffitrwydd
Guto Nyth Brân
Loading the player...

Gwylio fideo: Guto Nyth Brân

Cafodd y darn hwn ei ddangos ar y rhaglen 'Heno', gan gwmni Tinopolis ar gyfer S4C. Rhodri Davies yw'r cyflwynydd.

Cyn gwylio'r fideo, trafodwch â phartner/fel dosbarth ac yna edrychwch ar yr eirfa:

  • Beth dych chi'n ei wybod am Guto Nyth Brân yn barod?
  • Gwnewch nodyn o'r hyn rydych chi'n ei wybod.

Gwyliwch y fideo'n ofalus achos bydd cwestiynau wedyn!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
yr oesoedd a fu y blynyddoedd sydd wedi mynd heibio times past
brodor/ion person sy’n byw’n lleol native/s
chwedloniaeth (e.b.) hanes chwedlau ac ati mythology
ysgyfarnog (e.b.)/od anifail tebyg i wningen sydd â chlustiau hir hare/s
gornest (e.b.)/au cystadleuaeth contest
cadnoid mwy nag un cadno (llwynog) foxes
cwplodd gorffennodd finished
trychineb (e.b.g.)/au rhywbeth ofnadwy sydd wedi digwydd disaster
gorfoleddu bod yn hapus rejoice
cofleidio rhoi breichiau am rywun to embrace
llongyfarch dweud ‘da iawn’ wrth rywun arall to congratulate
Nos Galan 31 Rhagfyr New Year’s Eve
yn y cyffiniau yn y cyffiniau in the area
arddel ei grefft ymarfer ei grefft practice the art
ffeithiau moel dim ond ffeithiau, dim rhagor o wybodaeth bare facts
Cwmni Arad Goch cwmni drama o Aberystwyth sy’n teithio Cymru Cwmni Arad Goch