Darllenwch y gerdd hon ac yna edrychwch ar y daflen.
Rwy'n rhedeg ac rwy'n rhwyfo,
heb fynd o'r fan; gobeithio
caf wella wrth hyfforddi,
fel 'mod i yn fwy heini.
Rwy'n chwysu ac rwy'n chwifio
fy mreichiau wrth ystwytho,
a phawb yn drwch o'm cwmpas
yn pwffian ac yn gochlas.
Rwy'n ceisio codi'r pwysau
heb feddwl am y poenau;
gwell canolbwyntio heno
ar darged, nid ar gwyno.
Rwy'n seiclo, ond rwy'n stopio
ar ôl rhyw awr o wibio;
a throi'r hen gar am adref
i ddianc rhag y dioddef.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
hyfforddi | ymarfer chwaraeon | to train |
chwysu | dŵr yn dod o’r croen | to sweat |
ystwytho | dod yn fwy ystwyth a hyblyg | to become agile |
pawb yn drwch | llawer o bobl | a crowd |
canolbwyntio ar | rhoi sylw arbennig i rywbeth | to concentrate on |
cwyno | dweud pa mor wael yw rhywbeth | to moan |
gwibio | mynd yn gyflym | to sprint, dart |
dioddef | gorfod derbyn poen | to suffer |