Gallasai pob un gollodd ei fywyd ar y Titanic fod wedi cael ei achub pe bai'r technegau modern ar gael yn 1912, meddai Dr. Parnia.

Haeriadau sy'n swnio'n anhygoel ond mae gan Dr. Parnia hyder ym mhwer ei dechnoleg newydd. Mae mor hyderus nes ei fod wedi ysgrifennu llyfr, 'Erasing Death' sy'n trafod mewn gwyddoniaeth atgyfodi modern.

"Nid rhywbeth sy'n digwydd ar amrantiad yw marwolaeth ond proses sy'n gallu cael ei wyrdroi oriau wedi iddo ddigwydd," meddai Dr. Parnia yn The Huffington Post.
Nid yw'n bosibl dod â pherson yn fyw wedi iddo fod yn farw am fwy na thair awr ond mae Dr. Parnia yn grediniol y bydd datblygiadau mewn technoleg atgyfodi dros yr ugain mlynedd nesaf yn ei gwneud hi'n bosibl i gyrff sydd wedi marw ers 24 awr gael eu hadfywio.

Ac, yn wir, mae cleifion sydd â chlefyd y galon yn Ysbyty Prifysgol Stony Brook yn Efrog Newydd yn dystion i lwyddiant  Dr. Sam Parnia. Yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae'r niferoedd o gleifion sy'n cael eu hadfywio yno ddwbl y nifer sy'n cael eu hadfywio mewn ysbytai eraill yn UDA. Caiff 33% eu hadfywio yn Stony Brook o' i gymharu â 18% yng ngweddill UDA.

Mae ymchwilwyr a meddygon yno wedi datblygu offer mwy effeithlon i ail-ddechrau'r galon. Mae niwrolegwyr wedi darganfod fod cleifion sydd yn ymddangos yn farw neu mewn coma yn ymwybodol o'r hyn sy'n mynd ymlaen o'u cwmpas ac yn gallu gwneud tasgau meddwl panfyddant yn cael gorchymyn. Maent hefyd yn paratoi paciau oeri i'w lapio am gleifion wedi i'w calonau stopio, pwmpio dŵr halen i'w gwythiennau, rhoi chwistrelliadau i ddiogelu celloedd y corff a dripiau i roi ocsigen i wahanol rannau o'r corff wedi marwolaeth.

'Yn fy ngwaith i, nid astudio pobl sydd ar fin marw ydw i ond pobl sydd wedi marw. Rydyn ni wedi dysgu o brofiadau'r bobl sydd wedi marw am ychydig funudau neu oriau. Rydyn ni hefyd o'r farn y gall celloedd yr asgwrn fyw am bedwar diwrnod wedi marwolaeth a chelloedd y croen am 24 awr. Mae celloedd yr ymennydd yn parhau'n fyw am 8 awr ond nid ydynt yn weithredol. Felly, os yw'r broses oeri a'r gofal wedi atgyfodi yn cael eu gwneud yn gywir gall y claf ddod yn ôl yn fyw heb nam ar ei ymennydd.'

Ym mis Mehefin 2011, darganfuwyd dynes 30 oed mewn coedwig am 8:32 a.m. Roedd hi wedi marw yn dilyn cymryd gor ddôs o gyffuriau. Roedd gwres ei chorff wedi gostwng o 37˚C (98.5˚F) i 20˚C (68˚F), oedd yn golygu ei bod wedi bod yno ers oriau. Cyrhaeddodd tîm yr ambiwlans am 8:49 a.m. a rhoi CPR iddi ond wnaeth e ddim gweithio.

Pan gyrhaeddodd y ddynes yr ysbyty am 9:22 a.m. roedd gwres ei chorff yn 20˚C (68˚F) o hyd, a channwyll ei llygaid yn llonydd ac ddim yn ymateb i olau oedd yn golygu ei bod yn farw. Rhoddodd y meddygon CPR iddi a rhoi aer yn ei hysgyfaint gydag awyrydd (ventilator) awtomatig. Cafodd chwistrelliadau o gyffuriau i ail gychwyn ei chalon. Er gwaethaf yr ymdrechion i'w chynhesu ni chododd ei thymheredd. Yna rhoddodd y meddygon hi ar beiriant oedd yn rhoi'r swm uchaf posibl o ocsigen iddi - ECMO.

observpic.jpg

Llun o'r Observer, Sadwrn 6 Ebrill 2013.

facts.jpg

Wedi chwe awr o driniaeth cododd ei thymheredd i 32˚C (89.5˚F), ac ail- gychwynnodd ei chalon. Er iddi fod yn gorfforol farw am o leiaf 10 awr dros nos heb unrhyw driniaeth ac am chwe awr wedyn yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty, ymhen tair wythnos  roedd yn ddigon iach i gerdded allan o'r ysbyty heb unrhyw nam ar organ nac ar ei hymennydd. Oherwydd ei bod wedi oeri'n naturiol pan stopiodd ei chalon ni chafodd ei chelloedd unrhyw niwed ac roeddent yn gallu ail-ddechrau gweithio unwaith y cawsant ddigon o ocsigen eto. Arferai hyn gael ei alw yn 'Profiad Agos at Farwolaeth' ond awgryma Dr Parnia y dylai gael ei alw yn 'Profiad Wedi Marwolaeth'.

Triniaeth debyg gafodd y peldroediwr o Bolton, Fabrice Muamba mewn ysbyty yn Llundain wedi iddo syrthio'n anymwybodol ar gae White Hart Lane yn 2012. Bu Muamba yn farw am awr. Dilynnodd Parnia ei hanes ac mae'n chwerthin wrth ddweud, "Journalists have invented a new term, 'clinically dead'. I don't know what that term means. But the fact is Muamba was dead. And it was not by a miracle he was brought back to life, it was by science."