Cymru ar flaen y gad

Rhifyn 23 - Doctor! Doctor!
Cymru ar flaen y gad

Deddf Trawsblannu (Cymru)

Mae Cymru ar flaen y gad unwaith eto! Y tro hwn gyda'r Ddeddf Trawsblannu Dynol a basiwyd 10 o Fedi 2013. Bydd yn dod i rym ar y cyntaf o fis Rhagfyr 2015. Hyd hynny dewis rhoi organau y bydd pawb sy'n byw yng Nghymru.

Dewis peidio â rhoi organau fydd hi wedyn.

Diben y Ddeddf yw sicrhau mwy o organau ar gyfer trawsblannu. Bydd hynny yn golygu y bydd llai o bobl yn marw tra'n aros am organ addas.

Pan fo person yn dymuno peidio â rhoi un o'i organau bydd yn rhaid iddo ddatgan hynny yn ystod ei fywyd. Fel arall cymerir yn ganiataol fod unrhyw un sydd dros 18 oed ac wedi byw yng Nghymru am ddeuddeg mis yn fodlon i'w organau gael eu defnyddio.

Pam?

Mae trawsblannu organnau a thisiw yn un o'r triniaethau meddygol mwyaf llwyddiannus.  Gall un rhoddwr wella neu achub bywyd hyd at 9 o bobl trwy gyfrannu organ a llawer mwy trwy gyfrannu tisiw. Er bod llawer o bobl yn dweud y byddent yn fodlon cyfrannu organ neu dderbyn un pe bai raid, ni chaiff hyn ei adlewyrchu yn y nifer o bobl sydd ar y Gofrestr Cyfrannu Organau. Ac er bod pethau wedi gwella mae prinder organau o hyd. 

Siaradwch â'ch gilydd

Mae'n bwysig gwybod beth yw dymuniad aelodau'r teulu. Bydd perthnasau'r un sydd wedi marw yn aml yn gwrthod caniatad i ddefnyddio organ am nad ydynt yn gwybod beth fyddai dymuniad yr ymadawedig. Mae ymchwil wedi dangos bod cyfrannu organau yn codi o 90% pan fo perthnasau yn gwybod beth yw dymuniad yr ymadawedig.

graph1.jpg

graph2.jpg

graph3.jpg

Hyd nes daw'r ddeddf i rym, fodd bynnag, mae'n bwysig bod pawb yn ystyried cyfrannu organau. Darllenwch y pamffled hwn i weld sut y gellwch gofrestru fel rhoddwr organ.

nhs1.jpg

 

nhs2.jpg

Dywedwch wrth y rhai agosaf atoch chi beth yw eich dymuniad am roi organau.