Natur yn gwella

Rhifyn 23 - Doctor! Doctor!
Natur yn gwella

Hyd at ddechrau'r Ail Ryfel Byd yn 1939 roedd mwyafrif y cyffuriau oedd yn cael eu defnyddio gan feddygon yn perthyn i fyd natur. Planhigion oedd fwyaf cyffredin er bod rhai cemegau a metelau yn cael eu defnyddio e.e. sylffwr, potasiwm, halen, haearn.

Yn fuan ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd daeth cannoedd o gyffuriau synthetig - rhai yn cael eu paratoi mewn labordai. Pan sefydlwyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1948 a'r cyffuriau ar gael am ddim daeth yr arfer o ddefnyddio'r hen feddyginiaethau i ben.

Roedd y meddyginiaethau hyn ar gael ledled y byd ac yn ddifrifol o hen. Yn 1963 yn Shanidar yng ngogledd Irac agorwyd bedd ac ynddo roedd corff dyn fu farw 63,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn y bedd roedd chwe math o hadau llysiau, sef hocys y gerddi (hollyhock), clychau'r gog, milddail (yarrow), ysgall (thistle), penlas yr ŷd (cornflower) a llysiau'r gingroen (ragwort). Roedden nhw wedi cael eu rhoi yn y bedd er mwyn i'r person oedd wedi marw eu defnyddio fel meddyginiaethau.

Erbyn hyn planhigion digon dinod yn ein cloddiau ydy'r rhai oedd yn cael eu cymryd at afiechydon ers talwm. Byddai llysiau'r cwlwm (cumphrey) yn cael eu defnyddio i drin afiechydon y cylla ond daw eu henw Cymraeg o'r hen arfer o rwymo'r dail am asgwrn wedi torri i'w helpu i asio.

plant1.jpg

Llysiau'r cwlwm

Roedd milddail yn dda at geulo gwaed tra bod y llwynhidydd rhesog yn enwog am leddfu dolur rhydd.

plant2.jpg

Milddail

plant3.jpg

Y llwynhidydd rhesog

plant4.jpg

Planhigyn cyffredin oedd yn cael ei ddefnyddio oedd bysedd y cŵn (foxglove). Dyma'rDigitalis sydd wedi'i ddefnyddio i drin clefydau'r galon, ond mae gormod yn  farwol.

Sut oedd pobl yn gwybod pa lysiau i'w cymryd at wahanol afiechydon? Un dull amlwg oedd arbrofi er bod llawer o'r llysiau yn wenwynig a sawl un wedi ei ladd yn y broses. Dull arall oedd astudio arferion anifeiliaid. Cwestiwn diddorol yw pam mae gwartheg sy'n dioddef o grydcymalau yn aml yn gorwedd ar flodau menyn a pam mae defaid sydd â dolur rhydd yn pori ble mae llwynhidydd rhesog yn debygol o dyfu?

I wneud y ffisig byddai llond llwy de o'r llysieuyn ffres neu ddau lond llwy de o lysieuyn sych yn cael eu cymysgu mewn cwpanaid o ddŵr. I wneud eli i'w ddefnyddio ar y croen byddai un neu ddau lond llwy fwrdd o'r llysieuyn a saith owns o faselin neu lard yn cael eu berwi, yna'i hidlo a'i adael i oeri.

Mae'n debyg mai cofio'r meddyginiaeth llysieuol roedd pobl a'r wybodaeth yn cael ei throsglwyddo o'r naill genhedlaeth i'r llall.

Beth fyddwch chi'n ei wneud pan fyddwch yn llosgi hefo danadl poethion (nettles)? Chwilio am y dail tafol (broad-leaved dock) agosaf, poeri arnyn nhw a'u rhwbio ar y fan oedd yn llosgi? A tybed pwy wnaeth eich dysgu i wneud hyn? Eich mam neu rhyw blentyn arall? Siŵr o fod, ac fel hyn yn ddigon syml roedd y meddyginiaethau'n cael eu pasio o un genhedlaeth i'r llall.

Ond, gair i gall, mae'n ddigon difyr dysgu am hen feddyginiaethau ond da chi byddwch yn ofalus cyn mynd ati i baratoi a chymryd rhai eich hun - mi all fod y peth olaf wnewch chi! 

Sylwadau

Byddai fy hen famgu yn casglu danadl poethion - yn y gwanwyn fel rheol, pan oedden nhw'n ifanc - ac yn eu defnyddio i wneud tonig. Mae hyn yn gwneud synnwyr gan fod yna lawer o haearn yn y danadl a byddai hyn yn dda at glirio'r gwaed ac felly yn clirio penna dynod, sbotia ar y croen, a doluriau o bob math.Byddai hi'n dweud, "Three nettles in May keeps all diseases away".

Dilys Evans, Llandrillo. 

Defnyddio danadl poethion i drin crydcymalau fyddai fy nhaid.

Justin Thomas, Dolgellau. 

Rydw i'n cofio hen fodryb i fi o Gaerfyrddin yn eistedd o flaen y teledu gyda dail bresych anferth ar ei phengliniau i leihau poen y gwynegon. Llai poenus na danadl poethion rydw i'n siwr!

Samantha Williams, Pencader. 

Clywais fy mam yn sôn am ei nain yn tyfu gwahanol blanhigion llesol yn ei gardd. Roedd ganddi bersli i baratoi te at lid yr arennau a wermod wen i drin cryd cymalau, tair deilen ar frechdan bob dydd.

Iwan Huws, Llangefni. 

Byddai fy hen nain, mae'n debyg, yn casglu milddail, yn sychu'r blodau ar lawr neu drwy eu hongian o'r to ond heb adael i'r tymheredd godi dros 40 gradd Celsiws. Byddai'n defnyddio'r gwreiddyn at grydcymalau ac at drin y ddannodd. Blas siarp, tebyg iawn i bupur sydd ar y dail, meddai fy nhad.

Lowri Garmon.