Rhedeg ym Mhegwn y Gogledd

Rhifyn 24 - Chwaraeon Oer
Rhedeg ym Mhegwn y Gogledd

Dyma Lowri Morgan.

lowrim.jpg

 

Mae hi'n wyneb cyfarwydd oherwydd mae hi'n cyflwyno rhaglenni ar y teledu'n aml iawn. Mae hi'n anturiaethwr hefyd. Mae hi'n hoffi antur ac mae hi'n rhedeg mewn rasys wltra.

biog.jpg

 

race.jpg

6633.jpg

Yn y flwyddyn 2011, cymerodd Lowri ran mewn ras oer iawn, iawn - y 6633, ras wltra yn y Cylch Arctig.  Mae hon yn ras anodd iawn: 350 o filltiroedd dros dirwedd anodd, mewn tymheredd isel iawn, iawn.

Mae'r ras mor anodd fel nad yw pawb sy'n ei dechrau hi yn ei gorffen hi.  Maen nhw'n rhoi'r gorau iddi cyn cyrraedd y llinell derfyn. Yn 2011,  Lowri oedd yr unig un i orffen y ras ac o'r holl rai sydd wedi cystadlu yn y ras dros y blynyddoedd, dim ond 8 sydd wedi cyrraedd y diwedd. Dyna pa mor anodd yw hi!

 

Llwyddodd Lowri i redeg y ras hon mewn 174 awr ac 8 munud.

Paratoi

Cyn rhedeg unrhyw ras neu farathon, rhaid ymarfer, wrth gwrs. Treuliodd Lowri fisoedd yn paratoi ar gyfer y ras yma.

Sut wnaethoch chi baratoi?

Mi wnes i hyfforddi am 30 awr yr wythnos a rhedeg 150 o filltiroedd bob wythnos. Rhedais i mewn rhewgelloedd enfawr er mwyn dod i arfer â'r oerfel. Wnes i hyfforddi gyda'r fyddin yn Sweden. Roedd rhaid hyfforddi ... hyfforddi ... hyfforddi ... a dod i arfer â'r oerfel.

Hefyd, roedd rhaid ymarfer gwneud pethau pob dydd, e.e. cyn dechrau rasio, roeddwn i wedi bod yn ymarfer coginio gyda mwgwd dros fy llygaid. Pan fyddwch chi wedi blino'n ofnadwy, ac roeddwn i'n gwybod y byddwn i wedi blino yn ystod y ras, mae paratoi bwyd i chi'ch hun yn gallu bod yn anodd iawn. Felly, ar ôl bod yn ymarfer coginio heb fedru gweld beth roeddwn i'n ei wneud roeddwn i'n gwybod y byddwn i'n gallu paratoi bwyd i fi fy hun heb unrhyw broblem yn ystod y ras.

 

Y ras ei hun

Sut roeddech chi'n teimlo yn ystod y ras ei hun?

Roeddwn i'n hapus yn rhedeg ar y rhew. Er fy mod i mewn llawer o boen ar adegau, roeddwn i'n benderfynol o orffen y ras. Roeddwn i'n ofni methu ac roedd hynny'n fy ngwneud i'n fwy penderfynol. Fe wnes i ganolbwyntio ar roi un droed o flaen y llall o hyd nes cyrraedd y diwedd. Dyna sut mae llwyddo gydag unrhyw beth - rhoi un droed o flaen y llall ... a gwneud eich gorau.

walking.jpg

www.lowrimorgan.com

Lowri Morgan ar Twitter

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
wyneb cyfarwydd wyneb y mae llawer o bobl yn ei adnabod a familiar face
y llinell derfyn y llinell ar ddiwedd ras the finishing line
mwgwd gorchudd arbennig dros y llygaid blindfold