Taith eithafol

Rhifyn 24 - Chwaraeon Oer
Taith eithafol

Mae hi wedi teithio i fyny mynydd uchaf Ewrop. Mae hi wedi teithio i un o'r lleoedd oeraf ar y blaned. Mae hi wedi teithio i lawr drwy'r dŵr yn y llyn dyfnaf yn y byd. Beth yw hi ...? Y ffagl Olympaidd. 

Y Ffagl Olympaidd

Mae 14,000 o ffaglau wedi cael eu creu ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf, 2014. Dyna faint o bobl fydd wedi bod yn cario'r fflam Olympaidd i Sochi, yn Rwsia, lle mae Gemau Olympaidd y Gaeaf, 2014, yn cael eu cynnal.

Y cynllun

bodyinfobox.jpg

Cynnau'r fflam

Roedd y cynllunwyr eisiau creu ffagl sy'n edrych fel pluen oherwydd cawson nhw eu hysbrydoli gan hen chwedl o Rwsia sy'n sôn am yr aderyn tân. 

Cafodd y fflam ar gyfer y ffagl ei chynnau gan olau'r haul a drych arbennig yn Olympia, Groeg. Yna, cafodd hi ei chario drwy Roeg am 7 diwrnod nes cyrraedd Athen. Yna, cafodd hi ei hedfan i Moscow lle y dechreuodd ar ei thaith i'r Gemau yn Sochi, Rwsia.

map_625x433.jpg

Y daith orau erioed.

Eleni, mae'r swyddogion wedi ceisio creu'r daith orau erioed ar gyfer y ffagl Olympaidd.

Erbyn iddi hi gyrraedd y seremoni agoriadol yn Sochi, bydd hi wedi:

  • teithio 65,000km                                
  • bod i bob ardal yn Rwsia
  • teithio drwy 132 o ddinasoedd
  • teithio i Begwn y Gogledd ar long arbennig sy'n torri trwy'r rhew
  • teithio i fyny Mynydd Elbrus, y mynydd uchaf yn Ewrop
  • cael ei chludo mewn awyren, hofrennydd, car, tram, karakat, ar sled ceirw, ar sled cŵn, ar gefn ceffyl, carw a chamel, ar feic pedair olwyn - a mwy! 

Nid hynny'n unig ...

... ym mis Tachwedd 2013, cafodd y ffagl ei chludo mewn roced Soyuz i'r Orsaf Ofod Ryngwladol. Yna, cafodd hi ei chario y tu allan i'r llong ofod wrth i ddau gosmonot gerdded yn y gofod. Dyma'r tro cyntaf i ffagl Olympaidd fod allan yn y gofod - y tu allan i roced neu'r Orsaf Ofod Ryngwladol.

space.jpg

Hefyd ...

ym mis Tachwedd 2013, cafodd y ffagl - a'r fflam - ei chario gan dri deifiwr i ddyfnder o 13 metr yn Llyn Baikal Siberia, y llyn dyfnaf yn y byd. Roedd llosgydd arbennig ar y ffagl ac felly roedd y fflam yn llosgi drwy'r amser - hyd yn oed yn y dŵr. Ar ôl cael ei phasio o ddeifiwr i ddeifiwr o dan y dŵr, pasiodd un o'r deifwyr y fflam i Mikhail Chuev a hedfanodd e dros y llyn ar uchder o 10 metr, gan ddefnyddio jetpack arbennig. Waw!

olympic_torch_types_of_travel_copy.jpg

Taith anhygoel yn wir!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ffagl teclyn â fflam arno torch
cawson nhw eu hysbrydoli cawson nhw’r syniad they were inspired
aderyn tân aderyn mewn chwedl Rwsiaidd firebird
cynnau’r fflam dechrau’r fflam to light the flame
swyddogion pobl sydd â chyfrifoldeb dros rywbeth arbennig officials
y seremoni agoriadol y seremoni i ddechrau’r gemau the opening ceremony
yr Orsaf Ofod Ryngwladol yr orsaf wyddonol yn y gofod the International Space Station
llosgydd rhywbeth sy’n cadw’r tân i fynd burner