Darllenwch y ddau ddarn yma.
Mae'r cyntaf allan o: Aderyn Brith gan Rhiannon Gregory, Y Lolfa, 2013.
Mae'r prif gymeriad, Maï ar Manac'h yn mynd yn ôl i Lundain yn y 1920au ar ôl cyfnod yn byw dramor, ac yn gwisgo ei dillad gorau wrth ddosbarthu 'cardiau galw' i roi gwybod i'w hen ffrindiau ei bod hi'n byw yn y ddinas eto.
Glas golau oedd lliw ei chot, a'r coler bach mewn glas llawer tywyllach, ac ymylon y llewys o gwmpas y ddau arddwrn yr un lliw. O'r coler hyd y wasg roedd chwe botwm mawr yn yr un glas tywyll, a thri botwm yr un fath ar waelod y llewys. Roedd llinell y botymau yn pwysleisio siâp y got, yn glynu'n dynn wrth y corff, a gwaelod y got yn hanner cylch. O dan y got, gwisgai ffrog ysgafn o'r un glas golau â gwddf uchel yn dynn o dan ei gên. Un o greadigaethau mwyaf deniadol Worth* ydoedd, ac roedd yr het a wisgai yn syfrdanol o bert. Het fawr, ddofn, a chantel yn dod i lawr dros y talcen, yn yr un glas golau eto, a honno wedi'i haddurno â phlu a rhubanau yn yr un glas â'r rhubanau o gwmpas ymyl y ffrog. Yn hongian wrth gordyn ar ei garddwrn roedd pwrs bach pert.
*Worth - Charles Frederick Worth, y cynllunydd dillad ffasiynol iawn cyntaf yn y 19eg ganrif.
Allan o: O Ran, Mererid Hopwood, Gomer, 2008.
Yma mae merch yn meddwl am ei phlentyndod a'r esgidiau roedd hi'n eu gweld pan oedd hi'n ifanc. Roedd ei thad yn ddarlithydd cerddoriaeth.
Sgidie
Yn bedair blwydd oed mae traed yn rhan fawr o fywyd. Roeddwn i'n adnabod pobl yn ôl eu sgidie. Sgidie brown dynion fyddai'n dod i'n tŷ ni gan amlaf. Sgidie heb lawer o ôl polish a digon o ôl traul. Sgidie cyffyrddus, heb fod yn ffasiynol nac yn hen-ffasiwn chwaith. Sgidie Dad a sgidie cydnabod Dad. Adesert bootsneu daps Green Flash. Sgidie myfyrwyr miwsig Dad fyddai'r rhain.
Byddai sgidie synhwyrol Myng-gu yn dod o dro i dro, rhai nefi, gyda bwcwl arian bach, bach, a thyllau mân yn y cefn. Roedd rhain yn sgleinio. Ond nid cymaint â rhai Anti June. Roedd sgidie Anti June wedi'u gwneud o ryw ddeunydd oedd yn debycach i wydr na lledr. A doedd dim dal pa liw fyddai'r rhain. Roedden nhw'n hardd. Yn uchel ac yn hardd, a phan fyddai hi'n eu diosg i wisgo Scholls' yn eu lle, a dangos ewinedd bysedd ei thraed, a oedd yr un lliw â'r darn lledr ar flaen y sandals, byddwn i, weithiau, heb fod neb yn edrych, yn dwyn y sgidie gwydr i'r stafell molchi ac yn cloi'r drws. Yna, ar hyd y leino byddwn yn clipian clopian. Roeddwn i'n caru sgidie Anti June. Ar y cyfan, roeddwn i'n caru Anti June. Falle nid cymaint â'i sgidie hi.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
ymylon | mwy nag un/lluosog ‘ymyl’ | edges |
llewys | mwy nag un/lluosog ‘llawes’, darn o ddilledyn sydd am y fraich | sleeves |
creadigaeth | rhywbeth y mae rhywun wedi’i greu | creation |
gên | rhan isaf y wyneb sy’n dod o dan y geg | chin |
cantel | cylch sy’n mynd o gwmpas het | rim |
traul | mae hyn yn digwydd achos rhwbio neu ddefnydd cyson | wear and tear |
cydnabod | pobl rydych chi’n eu nabod | acquaintance(s) |
yn debycach | yn fwy tebyg i | mor similar to |
diosg | tynnu esgidiau neu ddillad | to take off |