Dwy ochr byd ffasiwn

Rhifyn 28 - Ffasiwn
Dwy ochr byd ffasiwn

Mae'n cerdded y catwalk yn dawel fel cath,

Mae'n brydferth, does neb sydd yn harddach;

Mae'r dillad yn ddrudfawr a'r gemau yn drwm

A gwylio a gwenu mae'r crachach.

 

O Baris i'r Eidal, mae'n teithio o hyd,

I sioeau a photoshoots prysur;

Mae colur a 'sgidiau o'i chwmpas bob dydd,

Mae'n ffodus nad yw hi yn segur.

 

A draw yn y Dwyrain mae menyw fach dlawd

Mewn ffatri sy'n llawn o beiriannau,

Yn gwnïo a gwnïo am oriau mor hir

I sicrhau dillad i'n siopau.

 

Ac yno y bydd hi, bob dydd a phob mis,

Bob blwyddyn, tan bydd hi'n ymddeol,

Yn gweithio am friwsion, ond wir, dyna ni,

Dim ots, 'mond ein bod ni'n ffasiynol.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
drudfawr drud + mawr , drud iawn expensive
crachach pobl sy’n meddwl eu bod nhw’n well na phawb arall snobs
ffodus lwcus fortunate
segur heb ddim i’w wneud idle, at a loose end
briwsion darnau bach iawn; ychydig iawn o arian pitance
ymddeol gorffen gweithio ar ôl llawer o flynyddoedd to retire