Ffasiwn rhad – ond beth yw’r gost?

Rhifyn 28 - Ffasiwn
Ffasiwn rhad – ond beth yw’r gost?

bodyimage_625x276.jpg

Ffasiwn rhad - ond beth yw'r gost?

Mae pawb yn hoffi bargen, yn enwedig prynu dillad ffasiynol am y nesaf peth i ddim. Ond ydych chi wedi meddwl erioed am y gost, nid i chi, ond i'r rhai sydd wedi gwneud y dillad?

Ffeithiau am y bobl  sy'n gwneud dillad i ni yn y DU:

  • Mae miliynau o bobl ledled y byd yn gweithio mewn ffatrïoedd gwneud dillad.
  • Menywod yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw.
  • Maen nhw'n cael eu talu'n wael iawn.
  • Mae'r ffatrïoedd yn gallu bod yn beryglus.

Astudiaeth achos: Bangladesh

map.jpg

  • Mae tua 5,000 ffatri ddillad yn Bangladesh.
  • Mae tua tair miliwn o bobl (3,000,000) yn gweithio yno.
  • Menywod yw 85% y rhai sy'n gwneud y dillad.
  • Mae'r rhan fwyaf o'r menywod hyn (86%) rhwng 18 a 32 oed.
  • Mae'r dynion sy'n gweithio mewn ffatrïoedd dillad fel arfer yn rheolwyr neu'n oruchwylwyr. Maen nhw'n ennill mwy o arian na'r menywod sy'n gwnïo.
  • Mae'r menywod yn gweithio oriau hir iawn er mwyn cyrraedd targedau.
  • Mae rhai'n gwneud goramser er mwyn cael mwy o arian. Erbyn iddyn nhw gyrraedd adref, mae hi'n hwyr iawn, felly does dim amser ganddyn nhw i ofalu am eu plant.
  • Mae rhai'n gorfod gweithio shifftiau nos, yn syth ar ôl gwneud shifft dydd! Weithiau does dim bwyd a diod iddyn nhw yn y ffatri yn y nos.

Damweiniau mewn ffatrïoedd dillad

Mae ffatrïoedd dillad yn gallu bod yn beryglus iawn achos dydyn nhw ddim yn dilyn rheolau iechyd a diogelwch. Maen nhw wedi cael eu hadeiladu'n wael gyda llawer o loriau. Weithiau, dydy'r trydan ddim yn ddiogel ac os bydd tân yn dechrau, mae llawer o ddefnydd a gwlân sy'n gallu llosgi'n ffyrnig ac yn gyflym dros ben.

Adeilad Rana Plaza yn dymchwel, 2013

Ym mis Ebrill 2013, dymchwelodd adeilad 8 llawr Rana Plaza, yn Dhaka, prifddinas Bangladesh. Roedd ffatrïoedd dillad, swyddfeydd, banc a fflatiau yn yr adeilad. Roedd craciau wedi ymddangos y diwrnod cyn i'r adeilad ddymchwel. Cafodd pawb rybudd i gadw draw. Ond roedd yn rhaid i'r gweithwyr yn y ffatrïoedd dillad fynd yn ôl i'r gwaith. Roedden nhw'n gwneud dillad i gwmnïau fel Primark, Mango, Matalan a Benetton. Dymchwelodd yr adeilad am 9 o'r gloch y bore, a chafodd 1,129 o bobl eu lladd.

Tân yn ffatri Tazreen Fashions Ltd, 2012

Ym mis Tachwedd 2012, digwyddodd tân ofnadwy yn ffatri ddillad Tazreen Fashions Ltd. eto yn Dhaka, prifddinas Bangladesh. Roedd hi'n gwneud dillad rhad i siopau yn UDA ac Ewrop. Roedd y ffatri ddillad ar naw llawr ac roedd 1,630 o bobl yn gweithio yno. Cafodd o leiaf 112 o weithwyr eu lladd. Methodd llawer o weithwyr ddianc oherwydd nad oedd digon o allanfeydd tân ac roedd gatiau wedi'u cloi. Cafodd 12 eu lladd wrth neidio o'r ffenestri.

Beth sy'n digwydd nawr?

Ers i'r damweiniau hyn ddigwydd, mae llywodraeth Bangladesh a'r siopau dillad sy'n prynu oddi wrthyn nhw wedi ceisio gwneud yn siŵr bod ffatrïoedd yn dilyn rheolau iechyd a diogelwch. Ond dydy'r sefyllfa ddim yn berffaith o hyd.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
am y nesaf peth i ddim yn rhad iawn for next to nothing
rheolwyr pobl sy’n dweud wrth bobl eraill beth i’w wneud managers
goruchwylwyr pobl sy’n gwirio bod pawb yn gwneud fel dylen nhw supervisors
goramser amser ar ben yr amser rydych chi’n ei weithio fel arfer overtime
rheolau iechyd a diogelwch rheolau i wneud yn siŵr fod pawb yn iach ac yn ddiogel yn y gwaith neu yn yr ysgol health and safety rules
dymchwel cwympo i’r llawr to collapse
allanfa dân ffordd o fynd allan o adeilad os oes tân fire exit