Gweithio ym myd ffasiwn
Ydych chi eisiau gweithio ym myd ffasiwn? Mae llawer o swyddi y gallech chi eu gwneud.
Ffeithiau am fyd ffasiwn
Dyma rai gyrfaoedd
Dylunio ffasiwn a thecstilau
Fel arfer, mae dylunwyr ffasiwn yn arbenigo ar un rhan o fyd ffasiwn fel dillad dynion neu ddillad plant. Rydych chi'n dylunio dillad newydd felly mae'n swydd greadigol iawn. Mae angen tua 500 dylunydd newydd bob blwyddyn - ond mae tua 4,000 o bobl yn gadael y coleg bob blwyddyn. Felly mae llawer o gystadleuaeth am y gwaith. Rydych chi'n treulio llawer o amser yn dylunio ar gyfrifiadur, ond efallai bydd cyfle i deithio dramor.
Masnachu ffasiwn
Mae hyn yn cynnwys arddangos dillad a chyfwisgoedd (bagiau, sgarffiau, gwregysau) yn ddeniadol er mwyn apelio at y prynwyr. Hefyd, rhaid cynllunio ffenestri siopau mawr, gwisgo'r modelau sydd yn y ffenestri, neu benderfynu lle mae'r gwahanol ddillad yn mynd yn y siop. Er enghraifft, mae mwy o ddillad yn cael eu gwerthu os ydyn nhw wedi'u gosod lle mae pobl yn cerdded drwy'r siop.
Prynu ffasiwn
Mae'r prynwr ffasiwn yn edrych ar y tueddiadau ffasiwn diweddaraf ac yn prynu'r dillad a'r cyfwisgoedd a fydd yn cael eu gwerthu mewn siopau. Maen nhw'n teithio i weld nwyddau mewn gwahanol ffatrïoedd ledled y byd, e.e. India, Tsieina, ac yn ceisio rhagweld beth fydd yn boblogaidd.
Marchnata ffasiwn
Mae rhai pobl sy'n gweithio yn y maes hwn yn gwneud ymchwil i weld beth mae'r cyhoedd yn ei hoffi. Maen nhw'n defnyddio holiaduron neu'n gwneud cyfweliadau i weld beth sy'n boblogaidd. Wedyn maen nhw'n llunio graffiau, siartiau ac adroddiadau i esbonio barn pobl.
Hefyd, mae'n rhaid gweithio gyda chwmnïau a siopau i greu brand cryf a hysbysebu'r brand mewn cylchgronau, ar y radio a'r teledu ac ar y we.
Newyddiadura ffasiwn
Mae rhai newyddiadurwyr yn canolbwyntio ar ffasiwn. Maen nhw'n ysgrifennu erthyglau neu'n paratoi eitemau i gylchgronau ffasiwn. Yn aml iawn, byddan nhw'n cael mynd i sioeau ffasiwn er mwyn gweld y tueddiadau diweddaraf.
Modelu
Mae modelau ffasiwn yn ymddangos mewn cylchgronau neu mewn sioeau byw. Mae rhai modelau'n arbenigo ar faes arbennig, e.e. modelu dillad 'petite' neu ddillad 'maint +'. Mae rhai wedyn yn canolbwyntio ar ran o'r corff, e.e. dwylo, traed. Mae gwaith hefyd i fodelau anabl sy'n arddangos ffasiynau neu gynnyrch i bobl anabl. Fel arfer mae modelau'n gweithio gydag asiant i ddod o hyd i waith.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
arbenigo ar | dod yn arbenigwr ar rywbeth | to specialise in |
masnachu | rhoi nwyddau’n barod i’w gwerthu | merchandising |
cyfwisgoedd | pethau sy’n mynd gyda dillad | accessories |
gwregys | darn (o ledr) sy’n mynd am eich canol | belt |
tuedd | cyfeiriad, y ffordd mae pethau’n mynd | trend |
y cyhoedd | pobl gyffredin, fel gwelwch chi ar y stryd | the public |
asiant | person sy’n chwilio am waith dros rywun | agent |