Dw i isio tatŵ,
bod yn tyff 'fath â nhw,
rhannu smôc yn y sedd gefn
cyn i'r bws ysgol chwyrnu o'r iard,
llyncu mwg heb ddangos fod fy llygaid i'n dyfrio.
Dw i isio bod yn un o'r gang,
bod yn un o'r rhai cŵl
sy'n ofni neb, sy'n ateb nôl.
Dw i isio clustdlws crwn yn fy motwm bol.
Dw i isio
peidio
bod yma
fy hun
ar gyrion eu sibrydion:
-Pwy ydi hon?
- Gwdi-gwdi! meddai'r iwnifform newydd-
dim rhwyg, dim crych, dim olion mwd
a chwlwm fy nhei yn fy nhafod.
Dw i isio trochi 'nglanweithdra
yn nefi blŵ eu blerwch,
sgriffio'n sgidia' wrth ddringo i'r ochr arall -
lle mae'r chwerthin:
Dw i isio bod yn perthyn.
Sonia Edwards.
Allan o: Un o'r Gang gan Sonia Edwards, Bwrlwm. ACAC 2002.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Sgriffio | crafu | to scuff |