Fuost ti rioed yn fwnci bach
Yn bwyta syltanas yn syth o'r sach?
Yn dringo'r cotiau sydd ar gefn y drws?
A thynnu wynebau, yn lle edrych yn dlws?
Fuost ti rioed yn fochyn pinc
Yn gwichian wrth gael dy folchi mewn sinc?
Yn rowlio mewn mwd yn dy ddillad glân?
A gorwedd yn noeth o flaen y tân?
Fuost ti rioed yn bilipala
Yn dawnsio'n yr haul ar y goeden 'fala?
Yn gwisgo blodau a throi'r byd yn ardd?
A sibrwd wrth flodyn ei fod o yn fardd?
Fuost ti rioed yn grocodeil
Yn taeru bod broga'n gwneud cinio gwerth chweil?
Yn gorwedd mewn bath yn fybyls at dy ên?
A dangos dy ddannedd i bobol glên?
Os na fuost ti'n grocodeil, yn bilipala chwaith,
Na mochyn, na mwnci ar dy daith,
Yna, mae'n ddrwg gen i,
Dwyt ti'n perthyn dim i'n teulu ni.
Myrddin ap Dafydd - Allan o: Tafodau Symudol. Gwasg Carreg Gwalch.