Batio ar draws y byd

Rhifyn 30 - Pedwar Ban y Byd
Batio ar draws y byd

Mae Megan ac Angharad Phillips, o Ddinbych, wedi bod i 28 o wledydd gwahanol - ond nid fel twristiaid. Maen nhw wedi bod yno i chwarae mewn cystadlaethau tennis bwrdd ac yn ystod haf 2014, buon nhw'n chwarae dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow hefyd.

batio ar ddraws y byd body.jpg

 

Y dechrau

Dechreuon nhw chwarae pan oedden nhw'n ddeg oed - pan gawson nhw fwrdd tennis bwrdd yn anrheg Nadolig. Roedden nhw wrth eu bodd ac felly penderfynon nhw ymuno â chlwb tennis lleol.

Roedden nhw'n mwynhau cymaint dechreuon nhw ymarfer o ddifri am tua 10 awr yr wythnos, gan gynyddu'r oriau i 20 awr yr wythnos erbyn iddyn nhw gyrraedd y chweched dosbarth. Roedden nhw'n chwarae ddwywaith y dydd fel arfer - yn y bore cyn mynd i'r ysgol, yna fin nos, ar ôl gorffen eu gwaith ysgol, neu weithiau yn ystod gwersi rhydd yn yr ysgol.

 

Heddiw

Erbyn heddiw, maen nhw wedi teithio i 28 gwlad wahanol er mwyn ymarfer a chystadlu mewn cystadlaethau gwahanol.

Maen nhw hyd yn oed wedi bod yn byw yn yr Almaen am 8 mis, yn chwarae i dîm mewn cynghrair yno. Penderfynon nhw wneud hynny yn lle mynd i'r brifysgol yn syth o'r ysgol.

 

Ble roedd y lle gorau?

Yn ôl Megan …

Batio ar ddraws y byd-body_625x276.jpg

"… Las Vegas oedd y lle gorau i mi. Roeddwn i'n cystadlu yng nghystadleuaeth yr US Open, ond ar ôl y gystadleuaeth fe gawson ni ychydig o amser i grwydro'r ardal. Mae'r 'strip' yn Las Vegas yn hynod o ddiddorol ac roeddwn i'n mwynhau gweld y 'dinasoedd' bach o fewn Vegas fel 'Paris bach'. Wnaethon ni fynd ar daith i'r Grand Canyon hefyd. Ces i syndod i weld maint y Grand Canyon. Mae o'n anhygoel!"

 

I Angharad, y lle mwyaf diddorol oedd …

"… India  - ond roedd o'n dipyn o sioc hefyd oherwydd y gwahaniaeth rhwng bywyd y bobl dlawd a'r bobl gyfoethog.

batio ar ddraws y byd-india.jpg

Gwelais i'r ardaloedd shanti ble mae'r bobl dlawd yn byw yn eu tai bychain a'u hysgolion - sydd ddim mwy na siediau o bren a dweud y gwir. Ond roedd rhai lleoedd prydferth iawn, fel y Taj Mahal - roedd o'n brofiad arbennig iawn cael gweld yr adeilad hwn. Dw i wedi bod i India bedair gwaith erbyn hyn ar gyfer gwahanol gystadlaethau, ond, yn bendant, fy hoff drip i India oedd pan oeddwn i'n chwarae yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2010. Fel tîm, gorffennon ni'n 10fed yn y gystadleuaeth y tro hwnnw."

 

Gemau'r Gymanwlad, 2014

meg angharad uniform.jpg

Roedd cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2014 yn brofiad anhygoel, fel y mae Angharad yn egluro:

"Roedd pentref yr athletwyr yn anhygoel! Roedd Tîm Cymru wedi gwneud ymdrech fawr i wneud i ardal Cymru edrych mor Gymreig â phosib ac felly roedd teimlad cryf o undod yno. Ond y profiad gorau i mi oedd cerdded i mewn i'r stadiwm yn y Seremoni Agoriadol o flaen miloedd o bobl - a gallu gweld baneri Cymru yn y dorf!

"Yn y gystadleuaeth tîm, wnaeth tîm menywod Cymru gyrraedd yr 8 olaf. Roedden ni'n hapus iawn gyda hyn oherwydd dyma'n targed ni cyn i'r Gemau ddechrau. Yn y dyblau cymysg, wnaeth fy mhartner, Connor Edwards, a fi gyrraedd y 32 olaf, ac yn y dyblau menywod, wnaeth Chloe Thomas a fi gyrraedd yr 16 olaf. Yn ogystal â hyn, cyrhaeddodd Megan, fy chwaer, y 32 olaf yn y gystadleuaeth i unigolion - allan o 128 o gystadleuwyr.

"Rydyn ni'n gobeithio gallu mynd ymlaen i Gemau'r Gymanwlad nesaf yn 2018 nawr!"

Pob lwc iddyn nhw yntê!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cynyddu gwneud yn fwy to increase
cynghrair grŵp o glybiau chwaraeon sy’n chwarae yn erbyn ei gilydd mewn pencampwriaeth league
syndod syrpreis surprise
undod perthyn yn agos i’w gilydd – bod fel un unity