Beth ydych chi'n hoffi bwyta i ginio?

Bwydlen bob evans.jpg

Beth am …?

Gallwch chi gael y rhain i gyd - a llawer iawn mwy - os ewch chi i un o diners Bob Evans yn America.

Pwy oedd Bob Evans?

Bob Evans proffil.jpg

I ddechrau, roedd gan Bob Evans fferm a thŷ bwyta yn, Ohio. Tŷ bwyta bach oedd e, gyda lle i 12 person fwyta. Roedd y bwyd yn dda ond roedd un broblem - doedd Bob Evans ddim yn gallu dod o hyd i selsig oedd yn ddigon da i'w gwerthu yn ei dŷ bwyta.

Felly, yn 1948, penderfynodd ladd moch o'i fferm ei hun a defnyddio'r darnau gorau o gig i greu selsig ar gyfer ei dŷ bwyta. Roedd y selsig yn flasus - yn flasus tu hwnt! Yn ôl y gyrwyr lori oedd yn aros i fwyta yn y tŷ bwyta bach, rhain oedd y selsig gorau yn America. 

Datblygodd y busnes. Aeth un tŷ bwyta'n ddau dŷ bwyta ac yn y blaen a dyma ddechrau'r gadwyn Bob Evans Diners. Erbyn heddiw, mae bron 600 o dai bwyta Bob Evans yn America. Yn ogystal, mae'r fferm lle roedd Bob Evans yn byw wedi datblygu'n lle poblogaidd hefyd - mae croeso i bobl ymweld, i gael pryd o fwyd ac i wersylla yno. Mae hyd yn oed gŵyl arbennig yn ystod ail benwythnos mis Hydref bob blwyddyn - Gŵyl Bob Evans!

Ond beth yw'r cysylltiad â Chymru?

bob_evans_red_bg.jpg

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
entrepreneur person sy'n datblygu busnes entrepreneur
cadwyn cyfres o bethau (e.e siopau, tai bwyta) sy'n gysylltiedig â’i gilydd. chain