Hoffech chi deithio i Alaska … ac yna ymlaen i Norwy … ac yna hwylio o gwmpas Ynysoedd Prydain … ac yna ymlaen i Fôr y Caribî - a chael eich talu am wneud?
Dyna mae merch o Orllewin Cymru yn ei wneud. Mae hi'n teithio… teithio… teithio ... i bedwar ban y byd.
Pam mae hi'n teithio…teithio…teithio…? Darllenwch y sgwrs yma.
Gweiddi: Beth ydy'ch gwaith chi nawr, Bethan?
Bethan: Dw i'n gweithio ar long wyliau fawr, ar y ddesg Gwasanaethau i Deithwyr. Mae hyn yn golygu ateb cwestiynau'r teithwyr, rhoi help pan fydd angen a gwneud gwaith gweinyddol.
Gweiddi: Ydych chi'n mwynhau?
Bethan: Ydw, yn fawr iawn. Dw i wrth fy modd. Dw i wedi cwrdd â phobl ddiddorol a dw i wedi gweld golygfeydd anhygoel!
Gweiddi: Ble rydych chi wedi bod hyd yma?
Bethan: Dw i wedi bod i Fôr y Caribî, Alaska, Norwy, Efrog Newydd, Quebec ac ar fordaith o gwmpas Gwledydd Prydain.
Gweiddi: Ydych chi wedi cael unrhyw brofiadau diddorol?
Bethan: Y llynedd, roedd rhaid i ni gysgodi rhag corwynt am dri diwrnod. Hefyd, dw i'n dilyn cwrs diddorol iawn ar y llong ar hyn o bryd - cwrs am fadau achub. Dw i'n dysgu llawer ac mae'n brofiad gwych.
Gweiddi: Pam wnaethoch chi ymgeisio am y swydd hon ar long?
Bethan: Er mwyn cael teithio, wrth gwrs, ond hefyd er mwyn cael profiad gwahanol.
Gweiddi: Sut rydych chi'n delio gyda chwsmeriaid anodd?
Bethan: Dw i'n gwenu a dw i ddim yn cymryd beth maen nhw'n ei ddweud yn bersonol.
Gweiddi: Sawl awr rydych chi'n gweithio bob dydd?
Bethan: Dw i'n gweithio rhwng naw a deuddeg awr bod dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Gweiddi: Beth ydy'ch gobeithion chi am y dyfodol?
Bethan: Hoffwn i gael dyrchafiad ond dw i eisiau parhau i ddysgu a mwynhau fy hun.
Gweiddi: Pa dri gair fyddech chi'n eu defnyddio i ddisgrifio'ch bywyd chi ar hyn o bryd?
Bethan: Hwyl! Cyffrous! Gwych!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
pyrser | swyddog ar long ay'n gyfrifol am y teithwyr ac am faterion ariannol | purser |
gwirfoddol | gweithio am ddim | voluntary |
gwasanaethau i deithwyr | gwasanaethau sy’n helpu’r teithwyr, e.e. rhoi gwybodaeth, help ac ati | traveller services |
gwaith gweinyddol | gwaith papur ac ati | administrative work |
cysgodi rhag | aros yn rhywle, o afael rhywbeth | to shelter from |
corrwynt | gwynt cryf iawn, iawn | hurricane |
badau achub | cychod bach sydd ar long fawr i achub pobl os bydd problem | lifeboats |
dyrchafiad | swydd uwch | promotion |
parhau | para, dal ati | to continue |